Gweithredoedd 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-11gyda Sapphira ei wraig, á werthodd dir, ac á ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd yn gyfrin ag ef; a gwedi iddo ddwyn rhyw gyfran, efe á’i gosododd wrth draed yr Apostolion. Eithr Pedr á ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i gynnyg twyllo yr Ysbryd Glan, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? Tra yr ydoedd yn aros, onid yn eiddot ti yr oedd yn aros? a gwedi ei werthu, onid oedd wrth dy drefniad dy hun? Paham y gadewaist i’r peth hwn ddyfod i dy galon? Ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. Ac Ananias yn clywed y geiriau hyn, á syrthiodd i lawr, ac á drengodd: a daeth ofn mawr àr bawb à glywsant y pethau hyn. Yna y cyfododd y gwŷr ieuainc, ac á’i rhwymasant ef i fyny, a gwedi ei ddwyn ef allan, hwy á’i claddasant. Wedi yspaid tua thair awr, ei wraig hefyd, heb wybod beth á wnaethid, á ddaeth i fewn. A Phedr á ddywedodd wrthi, Dywed di i mi, ai èr cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau á ddywedodd, Ië, èr cymaint. Yna y dywedodd Pedr wrthi, Paham y cyttunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? Wele draed y rhai à fuont yn claddu dy wr di, wrth y drws, a hwy á’th ddygant dithau allan. Ac yn y màn hi á syrthiodd wrth ei draed ef, ac á drengodd; a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i fewn, á’i cawsant hi yn farw, a gwedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy á’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr. A daeth ofn mawr àr yr holl gynnulleidfa, ac àr bawb à glywsant y pethau hyn.

12-16A llawer o arwyddion a rhyfeddodau á wnaed yn mhlith y bobl drwy ddwylaw yr Apostolion, (ac yr oeddynt oll yn unfryd yn mhorth Solomon; a ni feiddiai neb o’r lleill ymgyssylltu â hwynt, ond y bobl oedd yn eu mawrâu: a chredinwyr á chwanegwyd fwyfwy at yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd:) nes yr oeddynt àr hyd yr heolydd yn dwyn allan y rhai cleifion, ac yn eu gosod àr welyau a glythau, fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai o honynt. A lliaws hefyd allan o’r dinasoedd o amgylch, á ddaethant yn nghyd i Gaersalem, gàn ddwyn y cleifion, a’r sawl à flinid gàn ysbrydion aflan, y rhai á iachwyd oll.

17-32Ond yr archoffeiriad á gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw plaid y Saduwcëaid, ac á lanwyd o eiddigedd, ac á ddodasant eu dwylaw àr yr Apostolion, ac á’u rhoisant yn y carchar cyffredin. Ond cènad i’r Arglwydd o hyd nos á agorodd ddrysau y carchar, a gwedi iddo eu dwyn hwynt allan, á ddywedodd, Ewch, sefwch a llefarwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau y fuchedd hon. A gwedi clywed hyn, hwy á aethant yn fore iawn i’r deml, ac á athrawiaethasant. Ond wedi dyfod yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, hwy á alwasant yn nghyd y Sanhedrim, sef holl Senedd plant Israel, ac á ddanfonasant i’r carchar iddeu dwyn hwy gèr bron. Ond pan ddaeth y swyddogion, ni chawsant hwynt yn y carchar. Wedi iddynt ddychwelyd, gàn hyny, hwy á fynegasant, gàn ddywedyd, Ni á gawsom y carchar, yn wir, wedi ei gau yn y modd diogelaf, a’r ceidwaid yn sefyll o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i fewn. A gwedi i’r archoffeiriad, a chadben gwarchodlu y deml, a’r offeiriaid pènaf, glywed y geiriau hyn, ammheu á wnaethant yn eu cylch hwy, beth á allai hyn fod. Ond daeth un, ac á fynegodd iddynt, Wele, y mae y gwŷr à ddodasoch chwi yn ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl. Yna y cadben, gyda ’r swyddogion, á aeth ac á’u dyg hwynt, (nid drwy drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio:) a gwedi eu dwyn, hwy á’u gosodasant o flaen y Sanhedrim. A’r archoffeiriad á ofynodd iddynt, gàn ddywedyd, Oni orchymynasom ni i chwi yn gaeth, na ddysgech yn yr enw hwn? ac wele yr ydych wedi llenwi Caersalem â’ch athrawiaeth, ac á fỳnech ddwyn arnom ni waed y dyn hwn. Eithr Pedr a’r Apostolion ereill á atebasant, ac á ddywedasant, Rhaid yw ufyddâu i Dduw yn fwy nag i ddynion. Duw ein tadau ni á gyfododd i fyny Iesu, yr hwn á laddasoch chwi, drwy ei grogi àr bren: Hwn á ddyrchafodd Duw àr ei ddeheulaw yn Dywysog ac Iachawdwr, i roddi diwygiad i Israel, a maddeuant pechodau. A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glan hefyd, yr hwn á roddes Duw i’r rhai à ymostyngant iddei lywodraeth ef.

33-42A phan glywsant hwy hyn, ymgynddeiriogi á wnaethant, ac ymgynghori am eu lladd hwynt. Ond rhyw Pharisead yn y Sanhedrim, enw yr hwn oedd Gamaliel, dysgawdwr o’r gyfraith, mewn bri mawr gàn yr holl bobl, á gododd i fyny, ac á archodd ỳru yr Apostolion allan am ychydig amser: ac efe á ddywedodd wrthynt, Wyr Israel, edrychwch atoch eich hunain beth yr ydych àr fedr ei wneuthur i’r dynion hyn. Ryw amser yn ol, cyfododd Theudas, gàn gymeryd arno fod yn ddyn nodedig: wrth yr hwn yr ymlynodd rhifedi o ddynion, yn nghylch pedwar cant; yr hwn á laddwyd; a phawb à wrandawsant arno, á wasgarwyd, ac á aethant yn ddiddym. Ar ei ol ef y cyfododd Iuwdas y Galilead, yn nyddiau y cofrestriad, ac á dynodd liaws o bobl àr ei ol, ac yntau á ddarfu am dano; a phawb à wrandawsant arno, á wasgarwyd. Ac yn awr, yn yr achos presennol, yr wyf yn dywedyd i chwi, Peidiwch â’r dynion hyn, a gadewch lonydd iddynt; rhag y ceir chwi ond odid yn ymladdwyr yn erbyn Duw; oblegid os yw yr amcan a’r gwaith hwn o ddynion, fe’i diddymir; ond os o Dduw y mae, nis gellwch chwi eu diddymu hwynt. Hwythau á roisant i fyny iddo; a gwedi iddynt alw yr Apostolion i fewn, a’u fflangellu, hwy á orchymynasant iddynt na lefarent yn enw Iesu, ac á’u gollyngasant ymaith. A hwy á ymadawsant o wydd y Sanhedrim, yn llawen am eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch o achos ei enw ef. A pheunydd yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant a dysgu a chyhoeddi y newydd da, mai Iesu yw y Messia.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help