1 Thessaloniaid 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1 Paul, a Silfanus, a Thimothëus, at gynnulleidfa y Thessaloniaid, yr hon sydd yn Nuw Dad, ac yn yr Arglwydd Iesu Grist: Rhad i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth ein Harglwydd Iesu Grist.

2-10Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gàn goffâu am danoch yn ein gweddiau; gàn gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, yn ngolwg Duw, sef ein Tad ni; gàn wybod, frodyr caredig gàn Dduw, eich etholedigaeth chwi: oblegid ni ddaeth ein hefengyl ni atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd gyda nerth, a chyda ’r Ysbryd Glan, a chyda sicrwydd mawr: megys y gwyddoch pa fath rai á fuom ni yn eich plith, èr eich mwyn chwi. A chwi á aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glan. Hyd onid aethoch yn enghreifftiau i’r holl gredinwyr yn Macedonia ac Achaia. Hefyd, oddwrthych chwi y dadseiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig yn Macedonia ac Achaia; ond hefyd yn mhob màn y mae eich ffydd chwi tuagat Dduw gwedi myned àr led, fel na raid i ni ddywedyd dim. Canys y maent hwy eu hunain yn mynegi am danom ni, pa fath ddyfodiad i fewn á gawsom atoch chwi, a pha fodd y troisoch at Dduw oddwrth eilunod, i wasanaethu y bywiol a’r gwir Dduw; ac i ddysgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd, yr hwn á gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu ni oddwrth y digofaint y sydd àr ddyfod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help