1-13Gàn hyny, heb allu ymattal yn hwy, boddlawn fuom i gael ein gadael yn Athen ein hunain, ac á ddanfonasom Dimothëus, ein brawd, a gweinidog i Dduw, a’n cydweithiwr yn efengyl Crist, i’ch sefydlu chwi, ac i’ch cynghori yn nghylch eich ffydd; na syfler neb gàn y gorthrymderau hyn; oblegid gwyddoch eich hunain, mai i hyn y gosodwyd ni. Canys yn wir pan oeddym gyda chwi, ni á ddywedasom i chwi yn mlaen llaw, ein bod i gael ein gorthrymu; yr hyn á fu hefyd, fel y gwyddoch chwi. Oblegid hyn hefyd, minnau, heb allu ymattal yn hwy, á ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag ysgatfydd ddarfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer. Eithr yn awr, wedi i Dimothëus ddychwelyd atom oddwrthych, a dwyn i ni y newydd da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod genych goffa da am danom ni yn wastadol, gàn hiraethu am ein gweled ni, megys yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; drwy hyn, frodyr, y cawsom gysur am danoch chwi yn ein holl orthrymder a’n hangenoctyd, sef drwy eich ffydd chwi. Oblegid yn awr byw ydym, pan yr ydych chwi yn sefyll yn ddisigl yn yr Arglwydd. Eithr pa ddiolch á allwn ni ei atdalu i Dduw am danoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi, gèr bron ein Duw? Gan ddeisyfu mwy na mwy, nos a dydd, am gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd. A bydded i Dduw ei hun, sef ein Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, uniawni ein ffordd ni atoch chwi. A’r Arglwydd a’ch llanwo, ac a’ch gorlanwo o gariad at eich gilydd, ac at bawb, megys yr ydym ninnau atoch chwi; fel y cadarnâo eich calonau chwi yn difeïus mewn santeiddrwydd gèr bron Duw, sef ein Tad ni, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, gyda’i holl saint.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.