1-18(Am hyny, nyni á ddylem ddal yn well àr y pethau à glybuwyd; rhag un amser i ni eu gollwng hwynt i golli. Canys os bu mewn grym y gair à lefarwyd drwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufydd‐dod gyfiawn daledigaeth; pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iechydwriaeth gymaint? yr hon, wedi dechreu ei thraethu gàn yr Arglwydd, á gadarnâwyd i ni gàn y rhai à’i clywsant ef; a Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu, drwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw wyrthiau, a chyfraniadau o’r Ysbryd Glan, yn ol ei ewyllys ei hun.) Gyda hyny, nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd à ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru. Eithr un mewn rhyw fan á dystiolaethodd, gàn ddywedyd, “Pa beth yw dyn i ti feddwl am dano; neu fab dyn i ti wneuthur cyfrif o hono ef? Ti á’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion; ti á’i coronaist ef â gogoniant ac anrhydedd; ti á ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef.” Yn awr, wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ei ddarostwng iddo: ond yr awrhon, nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo; eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn á wnaed ychydig yn is na’r angylion, fel, drwy rad Duw, y profai efe farwolaeth dros bawb; oherwydd dyoddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd! Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, ei wneuthur ef, yr hwn sydd yn arwain meibion lawer i ogoniant, sef Tywysog eu hiechydwriaeth hwy, yn berffaith drwy ddyoddefiadau. Canys yr hwn sydd yn santeiddio, a’r rhai à santeiddir, o’r un tad y maent oll: am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; gàn ddywedyd, “Myfi á fynegaf dy enw i’m brodyr; yn nghanol y gynnulleidfa y canaf foliant i ti.” A thrachefn, “Myfi á ymddiriedaf ynddo.” A thrachefn, “Wele fi a’r plant à roddes Duw i mi.” Oblegid hyny, gàn fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed; yntau, hefyd, yr un modd, á fu gyfranog o’r un pethau; fel, drwy farwolaeth, y gorchfygai ef yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hyny yw, y diafol; ac y gwaredai hwynt, y rhai, drwy ofn marwolaeth, oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. Canys, yn wir, ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham á gymerodd efe. Am ba achos, yr oedd yn raid iddo ef, yn mhob peth, gael ei wneuthur yn gyffelyb iddei frodyr; fel y byddai efe yn Archoffeiriad trugarog a ffyddlawn, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymmod dros bechodau y bobl; canys drwy yr hyn à ddyoddefodd ei hun, pan ei profwyd; efe á ddichon gynnorthwyo y rhai profedig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.