Hebreaid 7 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-10Canys y Melchisedec hwn – brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn á gyfarfu âg Abraham wrth ddychwelyd o ladd y breninoedd, ac á’i bendigodd ef, i’r hwn y cyfranodd Abraham ddegwm o’r cwbl; yr hwn, yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw brenin cyfiawnder, a gwedi hyny, hefyd, brenin Salem, yr hyn yw, brenin heddwch, oedd heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes; eithr, wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn offeiriad yn wastadol. Ystyriwch, gàn hyny, mòr urddasol oedd yr offeiriad yma, i’r hwn y rhoddes hyd y nod Abraham y prifdad, ddegwm o’r anrhaith. Canys y rhai, yn wir, o feibion Lefi, sydd yn derbyn yr offeiriadaeth, sy ganddynt orchymyn i gymeryd degwm gàn y bobl yn ol y gyfraith; sef gàn eu brodyr, èr eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham; eithr yr hwn nid oedd ei achau o honynt hwy, á gymerodd ddegwm gàn Abraham, yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo. Ac, yn ddiddadl, yr hwn sy leiaf, á fendithir gàn ei well. Heblaw hyny, yma, yn wir, y mae dynion y rhai sydd yn meirw, yn cymeryd degymau; eithr yno, un y tystiolaethwyd am dano ei fod yn fyw. Ac, fel y gellid dywedyd, hyd y nod Lefi ei hun, yr hwn sydd yn cymeryd degymau, á dalodd ddegwm yn Abraham; oblegid yr oedd efe eto yn lwynau Abraham, pan gyfarfu Melchisedec âg ef.

11-19Yn mhellach, pe buasai perffeithrwydd drwy offeiriadaeth Lefi, (canys gyda hòno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall, yn ol urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ol urdd Aaron? Oherwydd paham, wedi newidio yr offeiriadaeth, angenrhaid yw bod cyfnewid àr y gyfraith hefyd. Oblegid yr hwn y dywedir y pethau hyn wrtho, á berthynai i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu yr allor. Canys eglur iawn yw mai o lwyth Iuwda y cododd ein Harglwydd ni, am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim gyda golwg àr offeiriadaeth. Hefyd, y mae yn eglurach o lawer eto fod, yn ol cyffelybrwydd Melchisedec, offeiriad arall yn codi, yr hwn á wnaed, nid yn ol cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ol nerth bywyd annherfynol. Canys tystiolaethu y mae, “Ti wyt offeiriad yn dragywydd, yn ol urdd Melchisedec.” Yma gàn hyny, y mae dirymiad i’r gorchymyn blaenorol, oherwydd ei wendid a’i afles, (canys ni pherffeithiodd y gyfraith neb,) – a dygiad i fewn obaith gwell, drwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw.

20-28Yn mhellach, yn gymaint ag nad heb lw – (canys y rhai hyny, yn wir, á wnaethwyd yn offeiriaid heb lw, ond hwn drwy lw, gàn yr hwn à ddywedodd wrtho, “Tyngodd yr Arglwydd, a ni bydd edifar ganddo, Ti wyt offeiriad yn dragywydd, yn ol urdd Melchisedec,”) o gymaint a hyny y gwnaethwyd Iesu yn fachnïydd àr sefydliad gwell. Heblaw hyny, llawer, yn wir, sydd yn cael eu gwneuthur yn offeiriaid, oherwydd lluddio iddynt gàn farwolaeth barâu: ond hwn, am ei fod yn byw yn dragywydd, sy ganddo offeiriadaeth nad yw yn myned drosodd oddwrtho. Am hyny hefyd efe á ddichon yn wastad achub y rhai drwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gàn ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. Canys y cyfryw Archoffeiriad oedd weddus i ni; yr hwn, ac efe yn santaidd, yn ddiddrwg, yn ddihalog, yn ddidoledig oddwrth bechaduriaid, a gwedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd, nid yw raid iddo, megys i’r archoffeiriaid, o bryd i bryd offrymu aberthau, yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo y bobl; canys yr olaf á wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun. Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynynt yn archoffeiriaid; eithr y llw, yr hwn á fu gwedi y gyfraith, á wnaeth y Mab, yr hwn á berffeithiwyd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help