Hebreaid 13 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-25Parâed brawdgarwch. Nac annghofiwch lettygarwch; canys wrth hyny y llettyodd rhai angylion yn ddiarwybod. Cofiwch y rhai sydd yn rwym, fel pe byddech yn rwym gyda hwynt; a’r rhai cystuddiol, megys yn bod eich hunain hefyd yn y corff. Byded priodas yn anrhydeddus yn mhlith pawb, a’r gwely yn ddihalogedig; oblegid puteinwyr a godinebwyr á farna Duw. Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar, gàn fod yn foddlawn i’r hyn sy gennych; canys efe ei hun á ddywedodd, “Ni’th roddaf i fyny, a ni’th lwyr‐adawaf chwaith.” Fel y gallwn ddywedyd yn hŷ, “Yr Arglwydd sy gymhorth i mi, a nid ofnaf beth á wnel dyn i mi.” Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai á draethasant i chwi air Duw; ffydd y rhai dilynwch, gàn ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Na’ch arweinier oddamgylch âg athrawiaethau amryw a dyeithr; canys da yw bod y galon wedi ei chryfâu â rhad, nid â bwydydd, drwy y rhai ni chafodd y sawl à rodiasant ynynt, fudd. Y mae genym ni allor, o’r hon nid oes hawl gàn y rhai sydd yn gwasanaethu y babell i fwyta. Hefyd, cyrff yr anifeliaid hyny, y rhai y dygir eu gwaed gàn yr archoffeiriad i’r cysegr, yn offrwm dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll; oherwydd paham Iesu hefyd, fel y santeiddiai y bobl â’i waed ei hun, á ddyoddefodd y tu allan i’r porth. Am hyny, ynte, awn ninnau ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gàn ddwyn ei waradwydd ef. Canys nid oes i ni yma ddinas barâus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei dysgwyl. Drwyddo ef, gàn hyny, offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw; sef ffrwyth ein gwefusau, yn cyffesu iddei enw ef. Ond gwneuthur daioni, a chyfranu, nac annghofiwch; canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Ufyddêwch i ’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megys rhai y bydd raid iddynt roddi cyfrif; – fel y gallont wneuthur hyny yn llawen, a nid yn drist; canys difudd i chwi fyddai hyny. Gweddiwch drosom ni; canys yr ydym yn hyderu bod genym gydwybod dda, gàn ewyllysio ymddwyn yn addas yn mhob peth. Ac yr ydwyf yn daerach yn dymuno gwneuthur o honoch hyn, fel y caffwyf fy adfer i chwi yn gynt. A Duw yr heddwch, yr hwn á ddyg yn ol oddwrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, drwy waed y sefydliad tragwyddol, á’ch cymhwyso i bob gwaith da, i wneuthur ei ewyllys ef, gàn weithio ynoch ýr hyn sy gymeradwy yn ei olwg ef, drwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Ac yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cynghor hwn, oblegid àr fyr eiriau yr ysgrifenais atoch. Gwybyddwch ollwng ymaith ein brawd Timotheus, gyda’r hwn, os daw efe àr fyrder, yr ymwelaf â chwi. Anerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Y mae y rhai o’r Eidal yn eich anerch. Rhad fyddo gyda chwi oll. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help