1-3Ac àr ol y pethau hyn, mi á welais angel arall yn dyfod i waered o’r nef, âg awdurdod mawr ganddo; a’r ddaiar á oleuwyd gàn ei ogoniant ef. Ac efe á lefodd â llef nerthol ac uchel, gàn ddywedyd, Syrthiodd! syrthiodd! Babilon Fawr; a hi á aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwriaeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwriaeth pob aderyn aflan ac atgas; oblegid hi á wnaeth i’r holl genedloedd yfed o win ei phuteindra creulawn hi; a breninoedd y ddaiar á buteiniasant gyda hi, a marchnatwyr y ddaiar á gyfoethogwyd gàn amlder ei moethau hi.
4-20A mi á glywais lais arall o’r nef, yn dywedyd, Deuwch allan o honi hi, fy mhobl i, fel na byddoch gydgyfranogion o’i phechodau hi, ac na byddoch gyfranog o’i phläau hi: oblegid ei phechodau hi á gyrhaeddasant hyd y nef, a’i gweithredoedd annghyfiawn á ddaethant i fyny yn goffadwriaeth gèr bron Duw. Rhoddwch yn ol iddi, megys y rhoddes hithau; a thelwch iddi yn ddeublyg yn ol ei gweithredoedd: yn y cwpan à gymysgodd hi, cymysgwch iddi yn ddeublyg. Cymaint ag yr ymogoneddodd, ac y bu mewn moethau, cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar. Oblegid dywedyd o honi yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenines, a gweddw nid ydwyf, a thristwch nis gwelaf ddim; am hyny mewn un dydd y daw ei phläau hi – marwolaeth, a galar, a newyn; a hi á lwyrlosgir â thân; oblegid cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi. Ac wylo am dani, a galaru drosti, á wna breninoedd y ddaiar, y rhai á buteiniasant, ac á fuant fyw yn foethus gyda hi, pan welont fwg ei llosgiad hi, gàn sefyll o hirbell, gàn ofn ei gofid hi, gàn ddywedyd, Och! och! y ddinas fawr Babilon – y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di. A marchnatawyr y ddaiar á wylant ac á alarant drosti, oblegid nad oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau hwynt: – nwyddau o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a llian main, a phorphor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed peraroglaidd, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haiarn, ac o faen marmor, a cinamon, a pheraroglau, ac enaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheillied, a gwenith, ac ychain, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethion, ac eneidiau dynion. A’r aeron à chwennychodd dy enaid, á aethant ymaith oddwrthyt, a phob peth danteithiol a gwych á aethant ymaith oddwrthyt, ac ni chai hwynt byth mwyach. Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai á gyfoethogwyd ganddi hi, á safant o hirbell, gàn ofn ei gofid hi, gàn wylo a galaru, a dywedyd, Och! och! y ddinas fawr, yr hon oedd wedi ei gwisgo â llian main, a phorphor, ac ysgarlad, a’i haddurno âg aur, a meini gwerthfawr, a pherlau; oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd yr holl gyfoeth hyn. A phob llonglywydd, a phob un sydd yn mordwyo i’r lle, a’r llongwyr, a chynnifer y sydd â’u gwaith àr y môr, á safasant o hirbell, ac á lefasant, pan welsant fwg ei llosgiad hi, gàn ddywedyd, Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr! A hwy á fwriasant lwch àr eu pènau, ac á lefasant, gàn ddywedyd, Och! och! y ddinas fawr, drwy farsiandaeth costfawr yr hon y cyfoethogwyd yr holl rai oedd ganddynt longau àr y môr; canys mewn un awr yr anrheithwyd hi! Llawenâa o’i phlegid hi, y nef, a chwi saint, ac apostolion, a prophwydi; oblegid dialodd Duw arni o’ch hachos chwi.
21-24Ac angel cryf á gododd faen, megys maen melin mawr, ac á’i bwriodd i’r môr, gàn ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach. A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac udganwyr, ni chlywir ynot mwyach; ac un crefftwr, o ba grefft bynag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach; a llewyrch lamp ni welir ynot mwyach, a llais y priodfab a’r briodasferch ni chlywir ynot mwyach; oblegid dy farchnatawyr di oeddynt wŷr mawr y ddaiar – oblegid drwy dy swyngyfaredd di y twyllwyd yr holl genedloedd: ac ynddi hi y caed gwaed prophwydi a saint, sef eiddo y rhai oll à laddwyd àr y ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.