1-9Y pryd hwnw â’r dyrfa yn lliosog iawn, a heb ganddynt ddim ymborth, efe á alwodd ei ddysgyblion, ac á ddywedodd wrthynt, Yr wyf yn tosturia wrth y dyrfa; oblegid y maent wedi bod gyda mi dri diwrnod bellach, a nid oes ganddynt ddim iddei fwyta; ac os anfonaf hwynt adref àr eu cythlwng, eu nerth á balla àr y ffordd; canys rhai o honynt á ddaethant o bell. Ei ddysgyblion á atebasant, O ba le y gallwn ni ddiwallu y bobl hyn â bara yma yn y diffeithwch? Yntau á ofynodd iddynt, Pa sawl torth sy genych? Dywedasant, Saith. Yna gwedi gorchymyn i’r dyrfa osod eu hunain àr y llawr, efe á gymerodd y saith dorth, a gwedi rhoddi diolch, á’u tòrodd hwynt, ac á’u rhoddes iddei ddysgyblion, fel y rhànent hwynt i’r bobl, a hwy á’u rhànasant. Yr oedd ganddynt hefyd ychydig bysgod bychain, y rhai, gwedi y fendith, á archodd efe eu gosod gèr eu brònau. Felly hwy à fwytasant, ac á ddiwallwyd; a’r briwfwyd à weddillid á ddygwyd ymaith mewn saith o lawfasgedi. A’r rhai à fwytasent oeddynt yn nghylch pedair mil.
10-13Gwedi eu gollwng hwynt ymaith, efe á aeth yn ddiannod i long gyda ’i ddysgyblion, ac á aeth i diriogaeth Dalmanutha. Oddyno rhyw Phariseaid á ddaethant, ac á ddechreuasant ddadleu ag ef; ac, èr ei brofi, á ofynasant ganddo arwydd yn yr wybren. Iesu á atebodd, gydag ochenaid ddwys, Paham y mae y genedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, ni roddir arwydd i’r genedlaeth hon. Wedi hyny, gàn eu gadael hwynt, efe á adlongodd ac á ddychwelodd.
14-21A’r dysgyblion á annghofiasent gymeryd bara, a ni feddent ond un dorth gyda hwynt yn y llong. Yna y rhoddes Iesu iddynt y rhybydd hwn: Gwyliwch; ymogelwch rhag surodes y Phariseaid a surdoes Herod. Hwythau gàn ymresymu àr hyny, à ddywedasant y naill wrth y llall, Hyn sydd am nad oes genym fara. Iesu gwedi sylwi àr hyn, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ymresymwch fel hyn, am nad oes gènych fara? A ydych chwi eto mòr ddifeddwl, mòr anystyriol? A ydyw eich dëall chwi eto gwedi ei ddallu? A chènych lygaid, onid ydych yn gweled? A chènych glustiau, onid ydych yn clywed? neu onid ydych yn cofio, pan rènais y pumm torth rhwng pumm mil, pa sawl basgedaid o friwfwyd á ddygasoch ymaith? Hwy á atebasant, Deg a dwy. A’r saith rhwng pedair mil, pa sawl llawfasgedaid o’r briwfwyd á ddygasoch ymaith? Hwythau á ddywedasant, Saith. Pa fodd ynte y mae, meddai yntau, nad ydych yn fy nëall i?
22-26Pan ddaeth Iesu i Fethsaida, hwy á ddygasant ato ddyn dall, ac á ddeisyfasant arno gyfhwrdd ag ef. Yntau á gymerodd y dall erbyn ei law, ac á’i tywysodd ef o’r tu allan i’r pentref. Yna gwedi iddo ddodi poeryn àr ei lygaid ef, a gosod ei ddwylaw arno, efe à ofynodd iddo á oedd efe yn gweled. Wedi edrych i fyny, efe á ddywedodd, Yr wyf yn gweled dynion, fel prèniau yn rhodio. Ac Iesu á osododd ei ddwylaw àr lygaid y dyn, ac á berodd iddo edrych drachefn. Ac yr oedd efe gwedi ei iachâu mòr berffaith, fel y gwelai bob peth yn eglur. Ac Iesu á’i hanfonodd ef adref, gàn ddywedyd, Na ddos i’r pentref, a na ddywed i neb o’r pentrefwyr.
DOSBARTH V.Y Gweddnewidiad.27-30Iesu á aeth oddyno gyda ’i ddysgyblion i bentrefi Caisarëa Philippi, ac àr y ffordd efe á ofynodd iddynt, gàn ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? Hwythau á atebasant, Ioan y Trochiedydd; ond rhai á ddywedant, Elias; ac ereill, Un o’r Proffwydi. Yntau á ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? Pedr gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Ti yw y Messia. Yna efe á orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb am dano ef.
31-33Ac efe a ddechreuodd hysbysu iddynt, bod rhaid i Fab y Dyn ddyoddef llawer o bethau, a chael ei wrthod gàn yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a chael ei ladd, a bod rhaid iddo yn mhen tridiau gyfodi drachefn. Hyn á ddywedodd efe mòr eglur, nes i Bedr wedi ei gymeryd ef o’r neilldu, ei geryddu ef. Yntau gwedi iddo droi ac edrych àr ei ddysgyblion, á geryddodd Bedr, gàn ddywedyd Dos ymaith yn fy ol i, wrthwynebwr, oblegid nid wyt yn synied pethau Duw, ond pethau dynion.
34-38Yna gwedi iddo alw ato y bobl, gyda i ddysgyblion, efe á ddywedodd, A oes neb yn ewyllysio dyfod dàn fy arweiniad i? Ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwybynag á fỳno gadw ei fywyd, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei fywyd èr fy mwyn i a’r efengyl, á’i ceidw ef. Pa lesâad i ddyn ped ennillai yr holl fyd, a fforffedu ei fywyd? neu pa beth na ddyry dyn yn bridwerth am ei fywyd? Canys pwybynag y byddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, yn yr odinebus a’r bechadurus genedlaeth hon, bydd cywilydd gàn Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda ’r angylion santaidd. Efe á chwanegodd, Yn wir,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.