1-12Ac yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, o berthynas i ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynnulliad ninnau ato ef; na’ch sigler àr frys oddwrth eich meddwl, ac na’ch brawycher, na chàn ysbryd, na chàn air, na chàn lythyr, megys oddwrthym ni, yn rhoi àr ddeall bod dydd yr Arglwydd gerllaw. Na thwylled neb chwi mewn un modd; oblegid ni ddaw y dydd hwnw, oni ddel y gwrthgiliad yn gyntaf, ac oni ddadguddir yn gyntaf y dyn pechod hwnw, y mab colledigaeth hwnw, yr hwn sydd yn gwrthwynebu ac yn ymddyrchafu yn erbyn pob un à elwir yn dduw neu yn wrthddrych addoliad; hyd onid yw efe yn gosod ei hun i eistedd yn nheml Duw, gàn ei ddangos ei hun allan, mai duw ydyw. Onid cof genych, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd o honof y pethau hyn wrthych? A chwi á wyddoch beth sydd yn awr yn attal iddo gael ei ddadguddio hyd ei amser ei hun. Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes, yn unig nes y tỳner ymaith yr hwn sydd yr awrhon yn attal; ac yna y dadguddir yr anwir hwnw, yr hwn á ddyfetha yr Arglwydd Iesu âg ysbryd ei enau; – â dysgleirdeb ei ddyfodiad, yn wir, y llwyr ddinystria efe ef, yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ol nerthol weithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau celwydd; a chyda phob dichell annghyfiawnder yn mysg y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. Ac oherwydd hyn y denfyn Duw idd eu mysg wyrthiadau twyllodrus, fel y credont gelwydd; fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu yn y gwirionedd, ond yn ymhyfrydu mewn anwiredd.
13-17Eithr ni á ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gàn yr Arglwydd, oblegid i Dduw o’r dechreuad eich dewis chwi i iechydwriaeth, drwy santeiddiaid ysbryd, a chrediniaeth o wirionedd; i’r hyn y galwodd efe chwi, drwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. Gan hyny ynte, frodyr, sefwch yn ddisigl, a deliwch y traddodiadau à ddysgwyd i chwi, ai drwy ein hymadrodd, ai drwy ein llythyr ni. A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw, sef ein Tad ni, yr hwn á’n carodd, ac á roddes i ni ddyddanwch tragwyddol, a gobaith da drwy radioni, á ddyddano eich calonau chwi, ac á’ch sefydlo mewn pob gair a gweithred dda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.