Rhufeiniaid 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1Pa ragoriaeth, gàn hyny, sydd i’r Iuddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad?

2Llawer, yn mhob ystyr: yn bènaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am Oraglau Duw.

3Oblegid beth os annghredodd rhai, – oni wna eu hannghrediniaeth hwy ddiddymu ffyddlondeb Duw?

4Na ato Duw. Ond bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megys y mae yn ysgrifenedig, “Fel yth gyfiawnâer yn dy eiriau, ac y gorfyddit pan farnech.”

5Eithr os yw ein hannghyfiawnder ni yn arddangos cyfiawnder Duw, pa beth á ddywedwn? Onid annghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd.)

6Na ato Duw: os yn amagen, pa fodd y barna Duw y byd?

7-8Eto, os bu gwirionedd Duw, drwy fy nghelwydd i, yn helaethach iddei ogoniant ef, paham ym collfernir innau eto megys pechadur, – a nid am i ni wneuthur drwg fel y del daioni, megys ein ceblir, a megys y dywed rhai ein bod yn dysgu, – y rhai y mae eu colledigaeth yn gyfiawn?

9-20Beth, ynte? A ydym ni yn rhagori?

Nac ydym ddim. Canys ni á brofasom o’r blaen bod pawb, yn Iuddewon a Chenedloedd, dàn bechod. Megys y mae yn ysgrifenedig, “Nid oes neb cyfiawn; nae oes un. Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. Gŵyrasant oll: aethant i gyd yn anfuddiol. Nid oes neb yn gwneuthur daioni; nac oes, cymaint ag un. Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sy dàn eu gwefusau: y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd. Buan yw eu traed i dywallt gwaed. Dystryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd; ond ffordd tangnefedd nid adnabuant. Nid oes ofn Duw o flaen eu llygaid.” Yn awr, ni á wyddom am ba bethau bynag y mae y gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai sy dàn y gyfraith y mae hi yn eu dywedyd; fel y cauer pob genau, ac y byddai yr holl fyd yn agored i gosbedigaeth gèr bron Duw. Am hyny, drwy gyfraith gweithredoedd, ni chyfiawnêir un cnawd yn ei olwg ef; canys drwy gyfraith y mae adnabod pechod.

21-31Eithr yr awrhon, yr eglurwyd cyfiawnâad yr hwn sydd o Dduw, heb gyfraith, yn cael dwyn tystiolaeth iddo gàn y gyfraith a’r proffwydi: sef cyfiawnâad yr hwn sydd o Dduw, drwy ffydd yn Iesu Grist, i bawb, ac àr bawb à gredant; canys nid oes gwahaniaeth. Oblegid pawb, wedi pechu a myned yn ol am ogoniant Duw, á gyfiawnêir yn rad drwy ei radioni ef, drwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu: yr hwn á osododd Duw allan yn gymmodfa drwy ffydd yn ei waed ef, èr arddangosiad o’i gyfiawnder ei hun wrth fyned heibio i’r pechodau à wnaethid o’r blaen, drwy ddyoddefgarwch Duw: èr arddangosiad, hefyd, o’i gyfiawnder y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn pan yn cyfiawnâu y neb sydd o ffydd Iesu. Pa le, gàn hyny, y mae y gorfoledd? Efe á gauwyd allan. Drwy ba gyfraith? ai cyfraith gweithredoedd? Nage; ond drwy gyfraith ffydd. Yr ydym yn penderfynu, gàn hyny, mai drwy ffydd y cyfiawnêir dyn yn annibynol àr gyfraith gweithredoedd. Ai i’r Iuddewon y mae efe yn Duw yn unig, a nid i’r Cenedloedd hefyd? Ië, i’r Cenedloedd hefyd. Gan mai un Duw sydd, efe á gyfiawnâa yr enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad drwy y ffydd. A ydym ni, wrth hyny, yn gwneuthur cyfraith yn ddiddefnydd drwy y ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnâu cyfraith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help