1-7At gènad y gynnulleidfa yn Ephesus ysgrifena: – Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddëau, yr hwn sydd yn rhodio yn nghanol y saith lamp aur, yn eu dywedyd: Mi á adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd; ac nas gelli oddef y rhai drwg: a phrofi o honot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt, a chael o honot hwynt yn gelwyddog; ac y mae genyt amynedd, a thi á oddefaist èr mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. Er hyny i gyd, y mae genyf beth yn dy erbyn, – golli o honot dy gariad cyntaf. Cofia, gàn hyny, o ba le y syrthiaist, a diwygia, a gwna y gweithredoedd cyntaf, onide mi á ddeuaf atat ti àr frys, ac á symudaf dy lamp allan o’i le, oni ddiwygi di. Ond y mae hyn genyt ti, dy fod yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf finnau yn eu casâu. Yr hwn sy ganddo glust gwrandawed pa beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfäoedd. I’r hwn sydd yn gorchfygu, y caniatâf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yn ngwynfa fy Nuw i.
8-10Ac at genad y gynnulleidfa yn Smyrna, ysgrifena: – Y pethau hyn y mae y Cyntaf a’r Diweddaf, yr hwn á fu farw ac y sy fyw, yn eu dywedyd; Mi á adwaen dy weithredoedd, a’th gystudd, a’th dylodi, (eithr cyfoethog wyt,) a mi á adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt; eithr cynnullfa Satan ydynt. Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt iddeu dyoddef; wele, y cythraul á fwrw rai o honoch chwi i garchar, fel ych profer; a chwi á gewch gystudd ddeng niwrnod: bydd ffyddlawn hyd angeu, a mi á roddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn sy ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfaoedd. Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gàn yr ail farwolaeth.
11-17Ac at genad y gynnulleidfa sydd yn Mhergamos, ysgrifena: – Y pethau hyn y mae yr hwn sy ganddo y cleddyf llym deufiniog, yn eu dywedyd: Mi á adwaen dy weithredoedd, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle y mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, hyd y nod yn y dyddiau y bu Antipas yn dyst ffyddlawn drosof fi, yr hwn á laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn preswylio. Er hyny, y mae genyf ychydig bethau yn dy erbyn di, bod genyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn á ddysgodd i Falac fwrw tramgwyddfa o flaen meibion Israel, i fwyta eilunaberthau, ac i buteinio. Y mae genyt tithau yr un wedd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid. Diwygia, gàn hyny; onide, myfi á ddeuaf atat àr frys, ac á ymladdaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. Yr hwn sy ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfäoedd. I’r gorchfygwr y rhoddaf o’r manna cuddiedig; a rhoddaf iddo gareg wen, ac àr y gareg enw newydd wedi ei ysgrifenu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18-29Ac at genad y gynnulleidfa sydd yn Thyatira, ysgrifena: – Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed fel pres coeth: Mi á adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd, a bod dy weithredoedd diweddaf di yn fwy na’r rhai cyntaf. Er hyny, y mae genyf beth yn dy erbyn di, dy fod yn gadael i’r wraig hòno Iezebel, yr hon sydd yn galw ei hun yn brophwydes, ddysgu a hudo fy ngweision i buteinio, ac i fwyta eilunebyrth. A mi á roddais iddi amser i ddiwygio oddwrth ei phuteindra, ac nid yw yn diwygio. Wele, myfi á’i bwriaf hi àr wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, oni ddiwygiant oddwrth eu gweithredoedd; a’i phlant hi á laddaf â marwolaeth; a’r holl gynnulleidfäoedd á gant wybod, mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arenau a’r calonau: a mi á roddaf i bob un o honoch yn ol eich gweithredoedd. Eithr wrthych chwi yr wyf fi yn dywedyd, sef wrth y lleill yn Thyatira, cynnifer ag nid ydynt yn dal yr athrawiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderoedd Satan, fel y dywedant; ni ddodaf arnoch faich arall. Er hyny, yr hyn sy genych, deliwch hyd oni ddelwyf. Ac am yr hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi á roddaf iddo awdurdod àr y cenedloedd: ac efe á’u llywodraetha hwynt â gwialen haiarn; fel llestri pridd y dryllir hwynt; megys y derbyniais innau gàn fy Nhad. A mi á roddaf iddo y seren fore. Yr hwn sy ganddo glust, gwarandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfaoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.