1 Timotheus 6 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-21Cynnifer ag ydynt weision dàn yr iau, tybiant eu meistraid eu hunain yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef. A’r sawl y sydd â meistraid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr gwasanaethant hwynt yn fwy, am eu bod yn gredinwyr, ac yn anwyl, y rhai sydd yn derbyn y llesâad. Y pethau hyn dysg a chynghora. Od oes neb yn dysgu yn amgen, ac heb gydsynied âg iachus orchymmynion ein Harglwydd Iesu Grist, ac â’r athrawiaeth y sydd yn ol duwioldeb, wedi ymchwyddo y mae, heb wybod dim; eithr gwanbwyllo y mae yn nghylch dadleuon, ac ymrysonau geiriol, o’r rhai y daw cenfigen, cynhen, enllibau, drygdybiau àr gam, cyndyn ddadleuon dynion llygredig eu meddwl, ac amddifad o’r gwirionedd; yn tybied mai elw yw duwioldeb; oddwrth y cyfryw, cilia draw. Eithr elw mawr yw duwioldeb gyda boddlonrwydd. Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw nas gallwn ddwyn dim allan chwaith. Oherwydd paham, os bydd genym ymborth a dillad, ymfoddlonwn àr hyny. Ond y sawl y sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth, a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn suddo dynion i ddinystr a cholledigaeth. Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch, yr hwn, a rhai yn chwannog iddo, hwy á gyfeiliornasant oddwrth y ffydd, ac á’u gwànasant eu hunain o bob tu â llawer o ofidiau. Am hyny, tydi, O wr Duw! gochel y pethau hyn, a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd: cymer afael àr y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd yth alwyd, ac y cyffesaist y gyffes dda yn ngwydd llawer o dystion. Yr ydwyf yn erchi i ti yn ngwydd Duw, yr hwn sydd yn bywâu pob peth; – ac yn ngwydd Crist Iesu, yr hwn á dystiodd wrth Bontius Pilat y gyffes dda; gadw o honot y gorchymmyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist; yr hwn ymddangosiad, yn yr amser priodol, á arddengys y bendigedig a’r unig Benadur, Brenin breninoedd, ac Arglwydd arglwyddi; yr hwn yn unig y sy ganddo anfarwoldeb – yn trigo mewn goleuni nas gellir dyfod ato; yr hwn nis gwelodd un dyn, a nis dichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. Gorchymmyn i’r rhai ynt oludog yn y byd hwn, na byddont uchelfrydig, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth èr mwynâad: – àr iddynt wneuthur daioni, bod yn gyfoethogion mewn gweithredoedd cariadus, yn hawdd ganddynt roddi, yn barod i gyfrànu, yn darparu iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd àr ddyfod, fel y caffont afael àr y bywyd tragwyddol. O Timothëus, cadw yr hyn à roddwyd atat idd ei gadw, gàn ochelyd halogedig ofersiarad, a gwrthdybiau gwybodaeth à gamenwir felly; yr hon, tra y mae rhai yn ei phroffesu, hwy á gyfeiliornasant o ran y ffydd. Rhad fyddo gyda thi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help