1-7A mi á welais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, wedi ei wisgo â chwmwl; ac enfys oedd o gylch ei ben ef, a’i wyneb oedd fel yr haul, a’i draed fel colofnau o dân. Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd, ac efe á osododd ei droed dëau àr y môr, a’r aswy àr y tir. Ac efe á lefodd â llef uchel, fel y rhua llew; a gwedi iddo lefain, y saith daran á roisant allan eu lleisiau. A gwedi darfod i’r saith daran lefaru, yr oeddwn i àr ysgrifenu. A mi á glywais lef o’r nef yn dywedyd, Selia y pethau à lefarodd y saith daran, ac na ysgrifena hwynt. A’r angel yr hwn á welais yn sefyll àr y môr, ac àr y tir, á gododd ei law ddëau tua’r nef, ac á dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn á greodd y nef, a’r pethau sydd ynddi; a’r ddaiar, a’r pethau sydd ynddi; a’r môr, a’r pethau sydd ynddo; na byddai dim oedi mwyach. Ond yn nyddiau llef y seithfed angel; pan ddechreuo efe udganu, y cyflawnir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe y newydd da am dano iddei weision y prophwydi.
8-11A’r llef à glywais o’r nef, á lefarodd drachefn wrthyf, ac á ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan, y sy gwedi ei agoryd, o law yr angel, yr hwn sydd yn sefyll àr y môr, ac àr y tir. A mi á aethym at yr angel, ac á ddywedais wrtho, Moes i mi y llyfr bychan. Ac yntau á ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr; ac efe á chwerwa dy gylla di, eithr yn dy enau y bydd yn felus fel mel. A mi á gymerais y llyfr bychan o law yr angel, ac á’i bwyteais ef: ac yn fy ngenau yr oedd càn felused a’r mel; ond wedi i mi ei fwyta ef, fy nghylla á aeth yn chwerw. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti eto brophwydo i bobloedd, a chenedloedd, ac ieithoedd, a breninoedd lawer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.