Gweithredoedd 14 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-7A dygwyddodd yn Iconium, iddynt fyned ill dau yn nghyd i gynnullfa yr Iuddewon, a llefaru yn y fath fodd, fel y credodd lliaws mawr o’r Iuddewon ac o’r Groegwyr hefyd. Ond yr Iuddewon annghrediniol á gyffroisant feddyliau y Cenedloedd, ac á’u llanwasant o ddryganiaeth yn erbyn y brodyr. Hwynthwy, èr hyny, á arosasant yno gryn amser, gàn lefaru yn hyf dros yr Arglwydd; yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei rad, ac yn cènadu gwneuthur arwyddion a gwyrthiau drwy eu dwylaw hwynt. Felly lliaws y ddinas á ymrànodd; a rhai oedd gyda ’r Iuddewon, a rhai gyda ’r Apostolion. Ond gàn bod ymgais ffyrnig wedi cael ei wneuthur, gàn y Cenedloedd a’r Iuddewon, yn nghyda ’u penaethiaid, i ruthro arnynt a’u llabyddio; hwynthwy gwedi eu hysbysu o hyny, á ffoisant i Lystra, a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddamgylch: ac yno y cyhoeddasant y Newydd da.

8-18Ac yr oedd rhyw wr yn Lystra, yn diffrwyth ei draed; cyn gloffed, o’i enedigaeth, fel na rodiasai erioed. Hwn á glywodd Baul yn llefaru, yr hwn, wedi edrych yn graff arno, a chanfod bod ganddo ffydd i gael ei iachâu; á ddywedodd, â llef uchel, Saf àr dy draed yn syth. Ac efe á neidiodd i fyny, ac á rodiodd. A’r lliaws, pan welsant yr hyn à wnaethai Paul, á godasant eu llef, gàn ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau, yn rhith dynion, a ddisgynasant atom. A Barnabas á alwasant yn Iau, a Phaul, yn Ferchyr, am mai efe oedd yr ymadroddwr pènaf. Ac offeiriad Iau, delw yr hwn oedd o flaen eu dinas, á ddyg deirw, yn nghyd â gwyrleni, i’r pyrth, ac á fỳnasai, gyda ’r lliaws, aberthu iddynt. Ond yr Apostolion, Barnabas a Phaul, pan glywsant am hyny, á rwygasant eu mantelli, ac á redasant i fewn yn mhlith y lliaws, gàn lefain, a dywedyd, Ddynion, paham y gwnewch y pethau hyn? Eich cydfarwolion ydym ni, ac yr ydym yn cyhoeddi i chwi y Newydd da, fel y troëch oddwrth y gwagbethau hyn, at y Duw byw, yr hwn á wnaeth y nef, a’r ddaiar, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynynt: yr hwn, yn yr oesoedd gynt, á oddefodd i’r holl genedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain: èr nas gadawodd efe mo hono ei hun yn ddidyst, gàn wneuthur daioni, a rhoddi i ni gawodydd o wlaw o’r nefoedd, a thymmorau ffrwythlawn, gàn lenwi ein calonau ni â lluniaeth ac â llawenydd. A thrwy ddywedyd y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

19-28Ond daeth yno Iuddewon o Antiochia ac Iconium, ac á ddarbwyllasant y lliaws; a gwedi llabyddio Paul, hwy á’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gàn dybied ei fod ef wedi marw. Ond, fel yr oedd y dysgyblion wedi ymgasglu o’i amgylch ef, efe à gyfododd, ac à aeth i’r ddinas; a thranoeth efe á ymadawodd, efe a Barnabas, i Dderbe. A gwedi iddynt gyhoeddi yr efengyl yn y ddinas hòno, ac ynnill llawer o ddysgyblion, hwy á ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, gàn gadarnâu eneidiau y dysgyblion; gàn eu cynghori i aros yn y ffydd, a thystiolaethu, mai drwy lawer o orthrymderau y mae yn raid i ni fyned i fewn i deyrnas Duw. A gwedi gosod iddynt henuriaid, yn mhob cynnulleidfa, gwedi gweddio àr Dduw gydag ympryd; hwy á’u gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. A gwedi iddynt dramwy drwy Bisidia, hwy á ddaethant i Bamphylia. A gwedi traethu y gair yn Mherga, hwy á aethant i waered i Attala. Ac oddyno hwy á fordwyasant i Antiochia, o’r lle y gorchymynasid hwynt i rad Duw, i’r gwaith à gyflawnasent. A gwedi iddynt ddyfod yno, a chasglu y gynnulleidfa yn nghyd, adrodd á wnaethant pa bethau á wnaethai Duw gyda hwynt, a’r modd yr agorasai efe ddrws ffydd i’r Cenedloedd. Ac yno yr arosasant hwy dros hir amser gyda ’r dysgyblion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help