1-21Bellach, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifenu yr un pethau atoch, genyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel. Gochelwch y cŵn, gochelwch ddrygweithredwyr, gochelwch yr amdòriad; canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn addoli Duw mewn ysbryd, ac yn gorfoleddu yn Nghrist Iesu, a nid yn ymddiried yn y cnawd. Er, yn wir, bod genyf sail i ymddiried, hyd y nod yn y cnawd, os yw neb arall yn tybied bod ganddo sail i ymddiried yn y cnawd; – y mae genyf fi fwy. – Gwedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Beniamin, yn Hebrëwr o’r Hebreaid; yn ol y gyfraith, yn Pharisead; yn ol sel, yn erlid y gynnulleidfa; yn ol cyfiawnder drwy gyfraith, yn ddiargyhoedd. Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hyny á gyfrifais i yn golled èr mwyn Crist. Ië, yn ddiammeu hefyd, yr wyf yn cyfrif pob peth yn golled, oherwydd ardderchogrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd; (èr mwyn yr hwn ym colledwyd yn mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr ennillwyf Grist, ac ym cair ynddo ef, heb fy nghyfiawnder fy hun drwy gyfraith, ond yr hwn y sy drwy ffydd Crist, – y cyfiawnder y sydd oddwrth Dduw drwy y ffydd hon;) – fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddyoddefiadau ef, gàn fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd yr adgyfodiad oddwrth y meirw. Nid fy mod eisoes wedi cael gafael, neu eisoes wedi gorphen fy ngyrfa; ond cyrchu yn mlaen yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwnw, èr mwyn yr hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gàn Grist Iesu. Frodyr, nid wyf fi yn cyfrif fy hun fel pa bawn wedi cael gafael àr y gamp; ond un peth yr wyf yn ei wneuthur, gàn annghofio y pethau o’r tu cefn; ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, yr wyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw drwy Grist Iesu. Cynnifer o honom, gàn hyny, ag á fỳnem fod yn berffaith, byddwn o’r meddwl yma; ac os ydych mewn dim yn tybied yn amgen, hyn hefyd á ddadguddia Duw i chwi. Yn mhellach, rhodiwn yn gyfatebol i’r peth à gyrhaeddasom. Frodyr, byddwch ddilynwyr i mi, ac edrychwch àr y sawl y sydd yn rhodio felly, megys yr ydym ni yn siampl i chwi. (Canys mi á ddywedais i chwi yn fynych, ac yr wyf yn awr hyd y nod dàn wylo yn dywedyd, bod llawer yn rhodio fel gelynion i groes Crist; diwedd y rhai yw dystryw, duw y rhai yw eu chwantau, a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daiarol.) Eithr nyni, dinesyddion y nefoedd ydym, o’r lle hefyd yr ydym yn dysgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: yr hwn á gyfnewidia ein corff gwael ni i’r un ffurf â’i gorff gogoneddus ef, yn ol y nerthol weithrediad, drwy yr hwn y dichon efe, ïe, ddarostwng pob peth iddo ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.