Ephesiaid 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-33Byddwch, gàn hyny, ddilynwyr Duw, fel plant anwyl; a rhodiwch mewn cariad, megys y carodd Crist ninnau, ac á’i rhoddes ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd. Eithr puteindra a phob aflendid, a thrachwant, – na chaffont hyd y nod eu henwi yn eich plith; (fel y mae yn gweddu i saint;) na serthedd, nac ymadrodd ffol, na choegddigrifwch, na phethau nid ydynt weddus; eithr yn hytrach rhoddi diolch. Canys hyn á wyddoch chwi, am bob puteiniwr, neu aflan, neu drachwantus, yr hwn sy ddelwaddolwr, nad oes iddo etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi âg ymadroddion ofer; canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod àr blant yr anufydd‐dod. Na fyddwch, gàn hyny, gyfranogion â hwynt. Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch; ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd; rhodiwch fel plant y goleuni. (Ffrwyth y goleuni, yn wir, sy gynnwysedig yn mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd.) Cymeradwywch yr hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd. A na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. Canys am y pethau à wneir ganddynt hwy yn ddirgel, y mae yn gywilyddus hyd y nod eu hadrodd. Eithr yr holl bethau argyhoeddadwy yma á eglurir gàn y goleuni; canys bethbynag sydd yn egluro, goleuni yw. Oherwydd paham, y mae efe yn dywedyd, “Deffro di, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddwrth y meirw, a Christ á dywyna arnat ti.” Edrychwch, gàn hyny, àr rodio o honoch yn gywir: nid fel ynfydion, ond fel doethion; gàn brynu yr amser, oblegid y dyddiau sy ddrwg. Am hyny, na fyddwch annghall, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. A na feddwer chwi gàn win, drwy yr hyn y mae afreolaeth yn dyfod; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd: gàn lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, ac emynau, ac odlau ysbrydol; gàn ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd: gàn ddiolch yn wastad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, i Dduw, sef y Tad. Ymddarostyngwch i’ch gilydd, yn ofn Crist. Wragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megys i’r Arglwydd. Oblegid y gwr yw pen y wraig, megys y mae Crist yn ben i’r gynnulleidfa; efe yw iachawdwr y corff. Am hyny, megys y mae y gynnulleidfa yn ddarostyngedig i Grist; felly, hefyd, bydded y gwragedd iddeu gwŷr priod, yn mhob peth. Wyr, cerwch eich gwragedd, megys y carodd Crist y gynnulleidfa, ac á’i rhoddes ei hun drosti; fel y santeiddiai efe hi, gwedi iddo ei glânau â badd dwfr, drwy y gair. Fel y cyflwynai efe hi iddo ei hun yn ogoneddus, yn gynnulleidfa heb arni na brychëuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn santaidd, ac yn ddifeius. Felly y dylai y gwŷr garu eu gwragedd eu hunain, megys eu cyrff eu hunain; y sawl sydd yn caru ei wraig ei hun, sydd yn ei garu ei hun. Canys ni chasâodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megys y mae yr Arglwydd yn gwneyd i’r gynnulleidfa: oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, ac o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. Oherwydd hyn y gâd dyn ei dad a’i fam; ac y glŷn wrth ei wraig; a’r ddau á fyddant yn un cnawd. Y mae hwn yn ddirgelwch mawr; eithr am Grist ac am y gynnulleidfa yr wyf fi yn dywedyd. Am hyny, hefyd, felly cared pob un o honoch yn benodol ei wraig ei hun, fel ef ei hunan; a’r wraig edryched àr iddi berchi ei gwr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help