Luwc 12 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-12Yn y cyfamser, tra yr oedd y bobl yn fyrddoedd yn ymdỳru o’i amgylch, nes oeddynt yn sangu y naill àr y llall, efe á ddywedodd, gàn gyfarch ei ddysgyblion, Yn bènaf dim, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Canys nid oes dim cuddiedig, na ddadguddir; dim dirgel, nas gwybyddir. Yr hyn á ddywedasoch yn y tywyllwch, à adroddir yn y goleu; a’r hyn à ddywedasoch yn y glust yn yr ystafell, á gyhoeddir oddar bènau y tai. Ond yr wyf yn erchi i chwi, fy nghyfeillion, nac ofnwch y rhai à laddant y corff, a gwedi hyny heb allu gwneuthur dim mwy; ond mi á ddangosaf i chwi pwy á ddylech ofni; ofnwch yr hwn, wedi iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern. Yr wyf yn dywedyd eto wrthych, Ofnwch hwnw. Oni werthir pump o adar y to èr dwy ffyrling? Eto nid oes un o honynt yn cael ei annghofio gàn Dduw: ïe, y mae hyd yn nod gwallt eich pèn chwi yn gyfrifedig oll; nac ofnwch, gàn hyny, yr ydych chwi yn lawer gwerthfawrocach nag adar y to. Hefyd, yr wyf yn dywedyd i chwi, pwybynag á’m haddefo i gèr bron dynion, Mab y Dyn á’i haddef yntau gèr bron angylion Duw; ond pwybynag á’m gwado i gèr bron dynion, á wedir gèr bron angylion Duw. A phwybynag á ogano Fab y Dyn, á all gael maddeuant; ond i’r hwn à gablo yn erbyn yr Ysbryd Glan, nid oes maddeuant. A phan ych dygir gèr bron cynnullfëydd, ac ynadon, a phènaethiaid, na fyddwch bryderus, pa fodd neu pa beth á ddywedoch; canys yr Ysbryd Glan á ddysg i chwi yn y meidyn hwnw beth á ddylech ddywedyd.

13-15Yna rhyw un o’r dyrfa á ddywedodd wrtho, Rabbi, dywed wrth fy mrawd am rànu â mi yr etifeddiaeth. Yntau á atebodd, Ddyn, pwy á’m gosododd i yn farnwr neu yn gylafareddwr i chwi? Ac efe á ddywedodd wrthynt, Ymochelwch rhag cybydd‐dod; canys pa mòr lawn bynag y dichon iddi fod àr ddyn, nid yw ei fywyd yn ymddibynu àr ei feddiannau.

16-21Efe á arferodd hefyd yr angraifft hwn, Tir rhyw wr goludog á gnydiodd yn dda. Ac efe á ymresymodd fel hyn ag ef ei hun, Pa beth á wnaf? canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo. Hyn á wnaf, chwanegai efe; mi á dỳnaf i lawr fy ystordai, ac á adeiladaf rai mwy, ac yno y casglaf fy holl gynnyrch a’m da. A dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt dda lawer wedi eu rhoddi i gadw dros lawer o flynyddoedd; gorphwys, bwyta, ŷf, bydd lawen. Ond Duw á ddywedodd wrtho, Ynfyd! y nos hon y gofynir dy enaid oddwrthyt. Eiddo pwy, gàn hyny, fydd y pethau à barotöaist? Felly y mae gyda ’r hwn sydd yn pentỳru iddo ei hun drysor, ac heb fod yn gyfoethog, tuagat Dduw.

22-34Yna y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Am hyn yr wyf yn erchi i chwi, na fyddwch bryderus o barth eich bywyd, beth á fwytäoch; nac o barth eich corff, beth á wisgoch. Y mae bywyd yn fwy rhodd na bwyd, a’r corff na dillad. Ysdyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi; ni feddant na chell nac ysgubor; ond y mae Duw yn eu porthi hwynt. Pa faint gwerthfawrocach ydych chwi nag ehediaid? Heblaw hyny, pwy o honoch á ddichon, drwy ei bryder, estyn ei einioes un awr? Os na fedrwch, gàn hyny, wneuthur hyd yn nod y peth lleiaf, paham yr ydych yn bryderus am y lleill? Ysdyriwch y lili. Pa fodd y maent yn tyfu? Nid ydynt yn llafurio; nid ydynt yn nyddu; eto yr wyf yn gwirio na chafodd, hyd yn nod Solomon yn ei holl ogoniant, ei addurno fel un o’r rhai hyn. Os dillada Duw felly y llysieuyn, yr hwn sy heddyw yn y maes, ac yfory á deflir i’r ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O rai anymddiriedus! Na ofynwch chwi, gàn hyny, pa beth á fwytäoch, neu pa beth á yfoch; na fyddwch byw mewn pryder ammheüus. Canys y pethau hyn holl y mae y Paganiaid yn eu hargeisio; ac y mae eich Tad chwi yn gwybod bod arnoch eu heisieu hwynt. Ond ceisiwch chwi deyrnas Duw, a’r pethau hyn oll á roddir i chwi yn ychwaneg. Nac ofna, fy nëadell fechan; canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen; darparwch i chwi eich hunain alwarau y rhai ni threuliant; trysor annarfodadwy yn y nefoedd, lle ni ddaw lladron yn agos, lle nid oes dim yn cael ei lygru gàn bryfed. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.

35-40Bydded eich lwynau gwedi eu hamwregysu, a’ch lluserni yn llosgi; a chwithau eich hunain yn debyg i’r rhai à ddysgwyliant eu meistr yn ol o’r neithior; fel pan ddelo a churo, y gollyngont ef i fewn yn ebrwydd. Gwyn eu byd y gweision hyny, y rhai á gaiff eu meistr pan ddychwelo, yn gwylied. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, efe á ymwregysa, a gwedi eu gosod hwy wrth y bwrdd, á ddaw ac á wasanaetha arnynt hwy. A phynag ai àr yr ail gwylbryd, ai àr y trydydd, y daw, os caiff efe bethau fel hyn, gwỳn eu byd y gweision hyny. Dir gènych, pe gwybuasai gwr y tŷ, pa awr y deuai y lleidr, y gwyliasai efe, a ni adawsai iddo dòri i fewn iddei dŷ. Byddwch chwithau, gàn hyny, bob amser yn barod; canys daw Mab y Dyn àr awr na byddoch yn ei ddysgwyl ef.

41-48Yna Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, ai atom ni yn unig y cyfeirir y ddameg hon, ai ynte at bawb? Yr Arglwydd á ddywedodd, Pwy yn awr yw y goruchwyliwr pwyllog a ffyddlawn, yr hwn á esyd y meistr àr ei deulu, i rànu iddynt y dogn o ŷd yn reolaidd? Gwỳn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei feistr ef, pan ddel, yn gwneuthur felly. Yn wír, yr wyf yn dywedyd i chwi, efe á ymddiried iddo drefnidaeth ei holl feddiannau. Ond am y gwas hwnw à ddywed ynddo ei hun, Y mae fy meistr yn oedi ei ddyfodiad, ac á gura y gweision a’r morwynion, á wledda, á loddesta, ac á feddwa; meistr y gwas hwnw á ddaw àr ddydd na byddo efe yn ei ddysgwyl, ac àr awr na byddo efe gwedi ei hysbysu am dani, a gwedi iddo ei ddiswyddo, efe á esyd iddo ei ràn gyda ’r anffyddloniaid. A’r gwas hwnw, yr hwn á wybu ewyllys ei feistr, ond nid ymbarotòdd, a ni wnaeth yn ol ei ewyllys ef, á gurir â llawer ffònod; ond yr hwn ni wybu, ac á wnaeth bethau yn haeddu cerydd, á gurir ag ychydig; canys i bwybynag y rhoddwyd llawer, llawer á ofynir ganddo; ac i’r neb yr ymddiriedir mwyaf, mwyaf á geisir ganddo.

49-53Mi á ddaethym i fwrw tân àr y ddaiar; a pha beth á fỳnwn, ond iddo fod wedi ei gynneu? Y mae genyf drochiad i’m trochi ag ef, a mòr gyfyng yw arnaf hyd oni orphener! A ydych chwi yn tybied i mi ddyfod i roddi heddwch i’r ddaiar? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Naddo, ond ymrániad. Canys bydd, àr ol hyn, bump yn yr un teulu gwedi ymrànu; tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri; tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn chwegr.

54-57Efe á ddywedodd hefyd wrth y bobl, Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, dywedwch, Hi á wlawia yn ebrwydd, a felly y bydd; a phan fyddo y deheuwynt yn chwythu, dywedwch, Fe fydd gwres, a fe fydd felly. Ragrithwyr, a fedrwch chwi farnu am yr hyn à ymddengys yn yr wybr, ac àr y ddaiar; pa fodd nad ydych yn medru barnu am yr amser presennol? a phaham nad ydych, hyd yn nod o honoch eich hunain, yn dirnad yr hyn sy gyfiawn?

58-59Pan elych gyda ’th echwynwr at yr ynad, gwna dy oreu àr y ffordd iddei foddloni ef, rhag iddo dy lusgo o flaen y barnwr, ac i’r barnwr dy draddodi i’r rhingyll, ac i’r rhingyll dy daflu i garchar; yr wyf yn sicrâu i ti, ni ’th ryddêir, hyd oni thelych yr hatling ddiweddaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help