1 Timotheus 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2Na cherydda hen wr yn llym, eithr cynghora ef megys tad, a’r rhai ieuainc megys brodyr; yr hen wragedd megys mamau, a’r rhai ieuainc megys chwiorydd, gyda phob diweirdeb.

3-18Anrhydedda y gwragedd gweddwon, y rhai ydynt wir weddwon: ond os bydd un weddw ag iddi blant neu ŵyrion, dysged y rhai hyn yn gyntaf ofalu yn dduwiol am eu teulu eu hunain, ac yna talu y pwyth iddeu rhieni: canys hyn sy gymeradwy yn ngolwg Duw. A’r hon sydd wir weddw, ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parâu mewn ymbiliau a gweddiau, nos a dydd. Ond yr hon y sy drythyll, sydd yn farw er ei bod yn fyw. Gorchymyn dithau y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd. Canys od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe á wadodd y ffydd, ac y mae yn waeth na’r anffyddiol. Na chyfrifer un yn weddw à fo dan driugeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gwr, yn enwog am weithredoedd da; – iddi ddwyn plant i fyny, iddi fod yn llettyugar, iddi olchi traed y saint, iddi gynnorthwyo y rhai cystuddiol, iddi ddilyn pob gwaith da. Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc; canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn ngwrthwyneb iddeu hymrwymiad i Grist, priodi á fỳnant, gàn gael barnedigaeth, am iddynt dòri eu hymrwymiad cyntaf. Ac, àr yr un pryd hefyd, y maent yn dysgu bod yn segur, gàn rodio o amgylch o dŷ i dŷ; a nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wagsiaradus, ac yn ymyrgar, gàn ddywedyd pethau na ddylent. Mi á fynwn, gàn hyny, i’r gweddwon ieuainc briodi, planta, llywodraethu y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi; canys y mae rhai eisoes wedi gwyro àr ol y gwrthwynebwr. Od oes gàn wr neu wraig grediniol wragedd gweddwon cynnorthwyant hwynt, ac na phwyser àr y gynnulleidfa, fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon. Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o wobr deublyg; yn enwedig y rhai sydd yn llafurio mewn gair ac athrawiaeth. Canys y mae yr ysgrythyr yn dywedyd, “Na chau safn yr ŷch sydd yn dyrnu yr ŷd;” ac, “Y mae y gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”

19-20Yn erbyn henuriad na dderbyn achwyn, oddeithr gàn ddau neu dri o dystion. Y rhai sydd yn pechu, cerydda yn ngwydd pawb, fel y byddo ofn àr y lleill.

21-25Erchi yr ydwyf yn ngwydd Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim drwy bleidgarwch. Na ddod ddwylaw yn ebrwydd àr neb, a na fydd gyfranog o bechodau rhai ereill. Cadw dy hun yn bur. Nac ŷf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychydig win, èr mwyn dy gylla a’th fynych wendid. Pechodau rhai dynion ydynt dra amlwg, yn myned o’r blaen i farnedigaeth; eithr rhai, yn wir, y maent yn dyfod àr eu hol. Yr un ffunud hefyd, y mae gweithredoedd da rhai yn dra amlwg, a’r rhai sydd yn amgen nis gellir eu cuddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help