1-3 Paul, Apostol galwedig i Iesu Grist, drwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes, at gynnulleidfa Duw yr hon sydd yn Nghorinth, à santeiddiwyd gàn Grist Iesu, á alwyd yn saint; gyda phawb, yn mhob màn, à sydd yn galw àr enw ein Harglwydd Iesu Grist, eu Harglwydd hwy a ninnau: rhad a thangnefedd fyddo i chwi oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth yr Arglwydd Iesu Grist.
4-9Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi; oherwydd y rhad Duw à roddwyd i chwi drwy Iesu Grist; eich bod wedi eich cyfoethogi â phob dawn, ganddo ef: sef â phob ymadrodd, a phob gwybodaeth, yn ol fel ag y cadarnâwyd tystiolaeth Crist yn eich plith chwi: fel nad ydych yn ol mewn un dawn, yn dysgwyl am ddadguddiad ein Harglwydd Iesu Grist; yr hwn á’ch cadarnâa chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlawn yw Duw, drwy yr hwn ych galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
10-31Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, drwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch yr un peth, a na byddo ymraniadau yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich uno yn berffaith yn yr un meddwl, ac yn yr un farn. Canys mynegwyd i mi am danoch chwi, fy mrodyr, gàn rai o deulu Chloe, bod ymrysonau yn eich plith chwi. Ac yr wyf yn crybwyll hyn, bod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi, yn wir, ydwyf eiddo Paul, minnau yn eiddo Apòlos, minnau yn eiddo Cephas, minnau yn eiddo Crist. A rànwyd Crist? Ai Paul á groeshoeliwyd drosoch? neu ai i enw Paul ych trochwyd chwi? Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na throchais i neb o honoch, ond Crispus a Gaius; fel na ddywedai neb i mi drochi i fy enw fy hun. Mi á drochais hefyd deulu Stephanas: heblaw hyny, nis gwn á drochais i neb arall. Canys ni ddanfonodd Crist fi i drochi, ond i gyhoeddi y newydd da; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ddieffaith. Oblegid yr athrawiaeth hon (yr athrawiaeth am y groes) i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni, y rhai cadwedig, gallu Duw ydyw. Am hyny y mae yn ysgrifenedig, “Mi á ddyfethaf ddoethineb y doethion, a gwybodaeth y rhai deallus á roddaf heibio.” Pa le y mae y doeth? pa le y mae y dysgawdwr? pa le y mae dadleuwyr y byd hwn? Oni ddangosodd Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? Canys oherwydd, yn noethineb Duw, nad adnabu y byd drwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda, drwy ffolineb y cyhoeddiad hwn, gadw y rhai sydd yn credu. Ac èr bod yr Iuddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb; eto yr ydym ni yn cyhoeddi Crist croeshoeliedig: – i’r Iuddewon, yn wir, yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb: ond iddynt hwy y rhai à alwyd, yn Iuddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion. Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ol y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion; eithr Duw á etholodd ffolion y byd, fel y gwaradwyddai y doethion; a’r gweiniaid á etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y cedyrn: gwaelion y byd, a’r rhai dirmygedig, á ddewisodd Duw: ie, y rhai sydd yn ddim, fel y gwnelai efe yn ddim y rhai sy; fel nad ymffrostiai un cnawd yn ei wydd ef. Yr ydych chwi, gàn hyny, o hono ef yn Nghrist Iesu, yr hwn á wnaethwyd i ni yn ddoethineb oddwrth Dduw, yn gyfiawnâad hefyd, ac yn santeiddiad, ac yn brynedigaeth. Fel, megys y mae yn ysgrifenedig, “Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.