1 Corinthiaid 11 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1Byddwch ddilynwyr i mi, megys yr wyf finnau i Grist.

2-16Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr; am eich bod, yn mhob peth, yn fy nghofio i, ac yn dal y traddodiadau fel y traddodais hwynt i chwi. Eithr mi á fynwn i chwi wybod, mai pen pob gwr yw Crist; a phen y wraig yw y gwr; a phen Crist yw Duw. Pob gwr yn gweddio, neu yn proffwydo, â pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben. A phob gwraig yn gweddio, neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen. Gyda hyny, yr un peth yw a phe byddai gwedi ei heillio. Herwydd paham, os gwraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged. Canys gwr, yn wir, ni ddylai wisgo am ei ben, gàn ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: eithr gwraig yw gogoniant gwr. Heblaw hyny, nid yw y gwr o’r wraig; ond y wraig sydd o’r gwr. Ac, hefyd, ni chrewyd y gwr èr mwyn y wraig, ond y wraig èr mwyn y gwr. Oherwydd hyn, y dylai y wraig fod ganddi orchudd àr ei phen, o achos y cènadau. Er hyny, nid yw na’r gwr heb y wraig, na’r wraig heb y gwr, yn yr Arglwydd. Gyda hyny, megys y mae y wraig o’r gwr, felly hefyd y mae y gwr drwy y wraig; eithr pob peth o Dduw. Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddio àr Dduw yn bennoeth? Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes á fydd gwr, mai anmharch yw iddo? Eithr, os gwraig á fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei gwallt á roddwyd iddi yn orchudd. Pa fodd bynag, od oes neb à fỳn fod yn ymrysongar, nid oes genym ni gyfryw ddefod; na chàn gynnulleidfäoedd Duw.

17-22Eithr, wrth ddywedyd hyn, eich bod yn dyfod yn nghyd, nid èr gwell, ond èr gwaeth, nid ydwyf yn eich canmol chwi. Canys, yn gyntaf, yn wir, yr wyf yn clywed, pan ddeloch yn nghyd yn y gynnulleidfa, bod ymraniadau yn eich plith; ac yr wyf mewn rhan yn ei gredu. Canys rhaid yw bod hyd y nod ymbleidiau yn eich mysg, fel y gwneler y rhai cymeradwy yn eich plith chwi yn eglur. Eithr eich dyfodiad yn nghyd i’r un lle, nid yw i fwyta swper yr Arglwydd. Canys, wrth ei fwyta, y mae pob un yn cymeryd ei swper ei hun yn gyntaf; ac un, yn wir, sydd â newyn arno, ac arall sy gwedi ei lenwi. Beth! onid oes genych chwi dai, i fwyta ac i yfed ynynt? ynte, á ydych chwi yn dirmygu cynnulleidfa Duw, ac yn gwaradwyddo y rhai nid oes ganddynt? Pa beth á ddywedaf wrthych? A ganmolaf fi chwi? Yn hyn, nid wyf yn eich canmol.

23-34Canys myfi á dderbyniais gàn yr Arglwydd, yr hyn hefyd á draddodais i chwi; bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymeryd torth; a gwedi iddo ddiolch, efe á’i tòrodd; ac á ddywedodd, Hwn yw fy nghorff, yr hwn á dòrir drosoch: gwnewch hyn èr coffa am danaf. Yr un modd hefyd, y cwpan, wedi iddo swperu, gàn ddywedyd, Y cwpan hwn yw y sefydliad newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynnifer gwaith bynag yr yfoch ef, èr coffa am danaf. Canys cynnifer gwaith bynag y bwytäoch y dorth hon, ac yr yfoch y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoedd fynegi marwolaeth yr Arglwydd, hyd oni ddelo. Felly, gàn hyny, pwybynag á fwytäo y dorth hon, neu á yfo y cwpan hwn o eiddo yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. Eithr holed dyn ef ei hun, ac yna bwytâed o’r dorth, ac yfed o’r cwpan. Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, heb wahaniaethu corff yr Arglwydd. Oblegid hyn, y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. Eithr, ped iawnfarnem ni ein hunain, ni’n bernid. Eto, pan ein bernir gàn yr Arglwydd, ceryddir ni, fel na’n collfarner gyda’r byd. Am hyny, fy mrodyr, pan ddeloch yn nghyd i fwyta, aroswch eich gilydd. Ac os bydd newyn àr neb, bwytaed gartref, fel na ddeloch yn nghyd èr barnedigaeth. A’r pethau ereill, mi á’u trefnaf pan ddelwyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help