2 Corinthiaid 8 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-10Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, yr eluseni drwy Dduw, à roddwyd gàn gynnulleidfäoedd Macedonia; ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy, a’u dwfn dylodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy: mai ol eu gallu, (yr wyf fi yn dyst,) ïe, uwchlaw eu gallu, ewyllysgar oeddynt o honynt eu hunain; gàn ddeisyfu arnom drwy lawer o ymbil, àr dderbyn o honom yr eluseni a chyfranogiad y gwasanaeth, yr hwn sydd i’r saint. Ië, tuhwnt i’n dysgwyliad; canys hwy á’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau drwy ewyllys Duw. Hyn á wnaeth i ni ddymuno àr Ditus megys y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orphen o hono yr un eluseni yn eich plith chwithau yr un modd. Megys, gàn hyny, yr ydych yn helaethion yn mhob dawn, (mewn ffydd, ac ymadrodd, a gwybodaeth, a phob díwydrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni,) yr wyf yn ewyllysio fod o honoch yn y dawn yma hefyd yn helaethion. Nid wyf yn dywedyd hyn fel gorchymyn, ond oblegid díwydrwydd rhai ereill, ac i brofi cywirdeb eich cariad chwi. (Canys chwi á adwaenoch eluseni ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned èr eich mwyn chwi yn dylawd, fel y cyfoethogid chwi drwy ei dylodi ef.) Ac yn hyn yr wyf yn rhoddi fy marn, mai buddiol yw hyn i chwi, y rhai á ddechreuasoch o’r blaen, nid yn unig wneuthur, eithr hefyd fod yn ewyllysgar èr y llynedd.

11-24Yn awr, gàn hyny, gorphenwch ei wneuthur; fel megys yr oedd parodrwydd i ewyllysio; felly y byddo i gwblâu hefyd, yn ol eich gallu. Canys os bydd parodrwydd meddwl, yn ol yr hyn sy gàn un, y mae yn gymeradwy; a nid yn ol yr hyn nid oes ganddo. Nid, yn wir, fy amcan yw esmwythâu àr ereill, a gwasgu arnoch chwithau; ond o ràn cyfartaledd, bod y pryd hwn, i’ch helaethrwydd chwi ddiwallu eu diffyg hwy; bod bryd arall, iddeu helaethrwydd hwythau diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cyfartaledd. Megys y mae yn ysgrifenedig, “Yr hwn à gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; a’r hwn à gasglodd ychydig, nid oedd arno eisieu.” Ac i Dduw y byddo y diolch, yr hwn á roddodd yr un diwydrwydd drosoch yn nghalon Titus. Canys, yn wir, efe á gafodd annogaeth; ond gàn faint ei ddyfalwch, yr oedd yn myned atoch o hono ei hun. A chydag ef ni á anfonasom y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl drwy yr holl gynnulleidfäoedd. A nid hyny yn unig, eithr á ddewiswyd hefyd gàn y cynnulleidfäoedd yn gydymdeithydd â ni, gyda’r eluseni hwn, yr hwn á weinyddir genym, èr clod, i’r Arglwydd ei hun, ac i’ch parodrwydd chwithau: gàn ochelyd hyn, na byddo i neb feio arnom wrth ddosbarthu yr helaethrwydd yma; gàn ragfyfyrio pethau gweddus, nid yn unig yn ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yn ngolwg dynion. A ni á anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn lawer gwaith á brofasom ni yn ddyfal mewn llawer o bethau; ond yn awr yn ddyfalach o lawer, oddwrth y mawr ymddiriad y sy ganddo ynoch chwi. Os gofynir am Ditus, fy nghydymmaith a’m cydweithydd drosoch chwi yw; neu am ein brodyr, apostolion i gynnulleidfaoedd ydynt, a gogoniant i Grist. Am hyny, y prawf o’ch cariad, ac o’n bost nínnau am danoch chwi, dangoswch gèr eu bron hwynt, ac yn ngolwg y cynnulleidfäoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help