1-15Cynghori yr ydwyf am hyny, yn mlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; dros freninoedd, a phawb y sy mewn goruchafiaeth, fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac addwynder. Canys hyn sy dda a chymeradwy yn ngolwg Duw ein Ceidwad, yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a’u dyfod i gydnabod y gwirionedd. Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr rhwng Duw a dynion, – y dyn Crist Iesu, yr hwn á’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb; – o’r hyn y mae y dystiolaeth yn ei hamser priodol: i’r hon ym gosodwyd i yn gyhoeddwr ac yn Apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn dywedyd celwydd,) yn athraw i’r Cenedloedd mewn ffydd a gwirionedd. Am hyny, yr wyf yn ewyllysio i’r gwŷr weddio yn mhob man, gàn ddyrchafu dwylaw santaidd, heb na digder na dadl. Yr un modd hefyd, bod i’r gwragedd ymdrwsio mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig, neu aur, neu èmau, neu ddillad drudfawr; ond (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd à fo yn proffesu duwioldeb) â gweithredoedd da. Dysged gwraig mewn dystawrwydd gyda phob ymostyngiad; canys nid wyf yn caniatâu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi àr wr, ond bod yn ddystaw; canys Adda á luniwyd yn gyntaf, yna Efa. Hefyd, nid Adda á dwyllwyd: eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd mewn camwedd. Eto, cadwedig fydd drwy ddwyn plant, os byddant hwy byw mewn ffydd, a chariad, a santeiddrwydd, yn nghyd â sobrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.