1-16Y gair hwn sydd wir, Od oes neb yn argeisio swydd arolygwr, gwaith rhagorol y mae yn ei chwennych. Rhaid i’r arolygwr, gàn hyny, fod yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, yn wyliadwrus, yn bwyllig, yn weddaidd, yn llettyugar, yn athrawaidd; nid yn wingar, nid yn darawydd, eithr yn dirion; yn anymladdgar, yn ddiariangar; yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufydd‐dod gyda phob difrifwch: (oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros gynnulleidfa Duw?) Nid yn un newydd ei ddychwelyd, rhag wedi ymchwyddo mewn balchder, iddo syrthio i farnedigaeth y diafol. Yn mhellach, y mae yn raid ei fod hefyd â gair da iddo gàn y rhai oddi allan, rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl y diafol. Rhaid i’r gweinidogion, yr un ffunud, fod yn ddwysbwyll, nid yn ddeueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; yn dala dirgelwch y ffydd â chydwybod bur. Eithr profer y rhai hyn hefyd yn gyntaf; yna gweinidogant, a hwy yn ddiargyhoedd. Rhaid i’r gwragedd, yr un modd, fod yn ddwysbwyll, nid yn enllibaidd; ond yn wyliadwrus, yn ffyddlawn yn mhob peth. Bydded y gweinidogion yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u teuluoedd yn dda. Canys y sawl à weinidogasant yn dda, ydynt yn ynnill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd y sydd yn Nghrist Iesu. Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifenu atat, gàn obeithio dyfod atat àr fyrder. Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y dylit ymddwyn yn nhŷ Duw, yr hwn yw cynnulleidfa y Duw byw, (colofn a sylfaen y gwirionedd, a mawr, yn ddiddadl, yw dirgelwch duwioldeb!) yr hwn á ymddangosodd yn y cnawd, á gyfiawnâwyd yn yr Ysbryd, á welwyd gàn gènadau, á gyhoeddwyd i’r Cenedloedd, á gredwyd iddo yn y byd, á gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.