2 Corinthiaid 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-11Hefyd, mi á benderfynais hyn ynof fy hun, na ddeuwn drachefn atoch gyda thristwch. Oblegid pe bawn yn eich tristâu chwi, pwy yw yr hwn à’m gwnai i yn llawen, oddeithr yr hwn à dristâwyd genyf fi? Am hyny, mi á ysgrifenais hyn yma atoch, fel pan ddelwn, na chawn dristwch oddwrth y rhai y dylwn lawenâu ynynt; gàn hyderu am bawb o honoch, bod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. Canys o drallod mawr a chyfyngder calon, yr ysgrifenais atoch â dagrau lawer; nid fel y tristâid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sy genyf yn dra helaeth tuag atoch chwi. Ac os tristâodd rhyw un fi, ni’m tristâodd i, oddigerth drwy ran o honoch chwi, fel na byddo i mi osod baich arnoch chwi oll. Digon i’r cyfryw un y gosbedigaeth yma, à roddwyd gàn y nifer mwyaf. Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn fwy parod faddau iddo a’i ddyddanu, rhag llyncu y cyfryw un gàn ormod tristwch. Am hyny, yr wyf yn attolwg i chwi, gadarnâu eich cariad tuag ato ef. Canys èr mwyn hyn hefyd yr ysgrifenais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch, á ydych yn ufydd yn mhob peth. I’r hwn yr ydych chwi yn maddau dim iddo, yr wyf finnau hefyd yn maddau; a minnau, os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, èr eich mwyn chwi y maddeuais, yn mherson Crist; fel na’n sòmer gàn Satan; canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.

12-17Hefyd, pan ddaethym i Droas i fynegi efengyl Crist, ac agoryd i mi ddrws gàn yr Arglwydd; ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Ditus fy mrawd: gàn hyny, gwedi canu yn iach iddynt, mi á aethym ymaith i Facedonia. Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yn Nghrist; a’r hwn sy trwom ni, yn gwasgaru arogledd y wybodaeth am dano ef yn mhob lle: canys perarogl Crist ydym ni, drwy Dduw, yn mhlith y rhai cadwedig, ac yn mhlith y rhai colledig. I’r naill, yn wir, yr ydym yn arogl marwolaeth yn dybenu mewn marwolaeth; ond i’r lleill, yn arogl bywyd yn dybenu mewn bywyd; a phwy sy gymhwys i’r pethau hyn? Pa fodd bynag, nid ydym ni megys llawer, y rhai sydd yn cymysgrywio gair Duw; eithr yn wir o gywirdeb, ïe, yn wir o Dduw, yn ngwydd Duw, yr ydym ni yn llefaru yn Nghrist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help