1-11Frodyr, gwir ewyllys fy nghalon a’m gweddi àr Dduw drostynt, yw, bod iddynt gael eu hachub. Canys yr wyf fi yn dyst drostynt, bod ganddynt eiddigedd dros Dduw; eithr nid yn ol gwybodaeth; canys, a hwynthwy heb wybod cyfiawnâad Duw, ac yn ceisio sefydlu yr eiddynt eu hunain, nid ymostyngasant i’r cyfiawnâad sydd o Dduw. Canys Crist yw dyben y gyfraith, èr cyfiawnâad i bob un sydd yn credu. Canys y mae Moses yn dysgrifio y cyfiawnâad sy drwy y gyfraith, mai “y dyn à wnel y pethau hyn á fydd byw drwyddynt.” Eithr y mae y cyfiawnâad sy drwy ffydd yn dywedyd fel hyn: Na ddywed yn dy galon, Pwy á esgyn i’r nef? hyny yw, i ddwyn Crist i waered. Neu, Pwy á ddisgyn i’r anoddyfn? hyny yw, i ddwyn Crist i fyny oddwrth y meirw. Ond beth y mae yn ei ddywedyd? (Y mae y gair yn agos atat; – yn dy enau, ac yn dy galon; sef gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu.) Mai os cyffesi â’th enau, bod Iesu yn Arglwydd, a chredu â’th galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. (Canys â’r galon y credir i gyfiawnâad; ac â’r genau y cyffesir i iechydwriaeth.) Oblegid y mae yr Ysgrythyr yn dywedyd, “Pwybynag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.”
12-21Yn wir, nid oes gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr: canys yr un Arglwydd àr bawb, sydd oludog i bawb à sydd yn galw arno. “Canys pwybynag á alwo àr enw yr Arglwydd, á fydd cadwedig.” Ond pa fodd y galwant àr yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant, heb gyhoeddwr? a pha fodd y cyhoeddant, onis danfonir hwynt? megys y mae yn ysgrifenedig, “Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn dwyn cenadwri lawen tangnefedd – y rhai sydd yn dwyn llawenchwedl pethau daionus!” Er hyny, nid ufyddâasant hwy oll i’r efengyl; oblegid y mae Isaia yn dywedyd, “Pwy à gredodd ein cyhoeddeb?” (Felly, gán hyny, ffydd sydd yn dyfod drwy glywed, a chlywed drwy air Duw.) Ond yr wyf yn gofyn, Oni chlywsant hwy? Do, yn ddiau, “Eu swn á aeth i’r holl ddaiar, a’u geiriau hyd eithafoedd y byd.” Yr wyf yn gofyn eto, oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, “Myfi á ỳraf eiddigedd arnoch drwy yr hon nid yw genedl – drwy genedl anneallus ych digiaf chwi.” Hefyd, y mae Isaia yn ymhyfâu pan y dyweda, “Cafwyd fi gàn y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; gwnaed fi yn amlwg i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf.” Ond am Israel y mae yn dywedyd, “Ar hyd y dydd yr estynais fy llaw at bobl anufydd a gwrthryfelgar.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.