1-15Dwg àr gof iddynt fod yn ddarostyngedig i lywodraethau ac awdurdodau, yn ufydd i lywiawdwyr, yn barod i bob gwaith da; fod heb enllibio neb, yn anymladdgar, yn dirion, gàn ddangos pob addfwynder tuagat bob dyn. Canys yr oeddym ninnau ein hunain hefyd gynt yn annoethion, yn anufydd, yn cyfeiliorni, yn caethwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gàn fyw mewn malais a chenfigen, yn ddygasog ac yn casâu ein gilydd. Eithr pan ymlewyrchodd daioni a dyngarwch Duw ein Hiachawdwr, yr achubodd efe ni, – nid o weithredoedd cyfiawnder, y rhai á wnaethem ni, – eithr yn ol ei drugaredd ei hun, drwy fadd yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glan; yr hwn á dywalltodd efe arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist ein Hiachawdwr; fel wedi ein cyfiawnâu drwy ei radioni ef, yn gwneid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragwyddol. Yr athrawiaeth hon sydd wir: ac am y pethau hyn, yr wyf yn erchi i ti haeru yn ddifrifol, bod i’r sawl à gredasant i Dduw, ofalu àr flaenori mewn gweithredoedd da: – dyma y pethau sydd anrhydeddus a buddiol i ddynion. Eithr gochel holiadau ffol, ac achau a chynhenau, ac ymrysonau yn nghylch y gyfraith; canys anfuddiol ydynt ac ofer. Gwrthod ddyn ymbleidgar, wedi un ac ail rybydd; gàn wybod bod y cyfryw un wedi ei wyrdroi, ac yn pechu, gàn ei fod yn hunanfarnedig. Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Dychicus, brysia ddyfod ataf i Nicopolis, canys yno yr arfaethais auafu. Hebrwng Zenas, y cyfreithwr, ac Apòlos, yn ddiwyd, fel na byddo arnynt eisieu dim. A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da, i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth. Y mae pawb y sy gyda mi yn dy anerch. Anerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Rhad fyddo gyda chwi oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.