Ephesiaid 6 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-4Y plant, ufyddêwch i’ch rhieni yn yr Arglwydd; canys hyn sy gyfiawn. Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw y gorchymyn cyntaf gydag addewid,) fel y byddo yn dda i ti, a fel y byddech hirhoedlog àr y ddaiar. A chwithau, dadau, na ỳrwch eich plant i ddigio; ond dygwch hwynt i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

5-24Y gweision, ufyddêwch i’ch meistriaid yn ol y cnawd, gydag ofn ac arswyd, yn nghywirdeb eich calon, megys i Grist. Nid â golwgwasanaeth, fel boddlonwyr dynion, ond fel gweision i Grist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; gydag ewyllys da, yn gweithredu fel gweision i’r Arglwydd, a nid i ddynion: gàn wybod mai pa ddaioni bynag á wnelo pob un, am hyny y derbyn efe gàn yr Arglwydd, pa un bynag fyddo ai caeth ai rhydd. A chwithau, feistriaid, gwnewch yr un pethau iddynt hwy, gàn fod yn gymedrol mewn bygythio; gán wybod bod eich meistr chwithau hefyd yn y nefoedd, a nid oes derbyn wyneb gydag ef. Yn ddiweddaf, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Gwisgwch ollarfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn dichellion y diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn cig a gwaed yn unig; ond yn erbyn llywodraethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn llywiawdwyr y tywyllwch hwn, ac yn erbyn ysbrydion drygionus yn y gororau nefol. Oblegid hyn, cymerwch i fyny ollarfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, a gwedi gorphen pob peth, sefyll. Sefwch, gàn hyny, gwedi amwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfroneg cyfiawnder; a gwisgo am eich traed barotöad efengyl tangnefedd. Ar y cwbl, wedi cymeryd i fyny darian y ffydd, â’r hwn y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw. A phob rhyw ymbil a deisyfiad, gweddiwch bob amser mewn ysbryd; ac èr mwyn hyn yma, byddwch wyliadwrus gyda phob dyfal‐bara a deisyfiad dros yr holl saint: – yn enwedig drosof fi, fel y rhodder i mi hyawdledd drwy agoryd fy ngenau yn hŷ, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; dros yr hon yr wyf yn gènad mewn cadwyn; fel y traethwyf yn hŷ am dani, fel y mae yn gweddu i mi draethu. Yn mhellach, fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, brawd anwyl, a gweinidog ffyddlawn yn yr Arglwydd, á hysbysa i chwi bob peth; yr hwn á ddanfonais atoch èr mwyn hyn yma, fel y caech wybod ein helynt ni, a fel y dyddanai efe eich calonau chwi. Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddwrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Rhad fyddo gyda phawb y sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn cywirdeb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help