1-20Canys chwi á wyddoch eich hunain, frodyr, ein dyfodiad ni i fewn atoch, nad ofer fu. Canys èr dyoddef o honom o’r blaen, a chael ein hanmharchu, fel y gwyddoch chwi, yn Philippi, ni á fuom hyfion drwy ein Duw, i lefaru wrthych chwi efengyl Duw, yn nghanol mawr ymdrech. Hefyd, ein cynghor ni nid oedd o gyfeiliorni, nac o anmhurdeb, na thrwy dwyll. Eithr megys yn cyfrifwyd ni gàn Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel rhai yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonau ni. Oblegid ni buom ni, un amser, yn arfer geiriau gwenieithus, neu rithesgus dros gybydd‐dod; y mae Duw yn dyst. Ni buom chwaith yn ceisio anrhydedd gàn ddynion; na chenych chwi, na chàn ereill. Gallasem weithredu gydag awdurdod, fel Apostolion i Grist; eithr ni á fuom addfwyn yn eich mysg chwi, fel mammaeth yn maethu ei phlant: – felly, gàn bod genym fawr serch tuag atoch, ni á fuom ewyllysgar i gyfranu i chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd; am eich bod wedi myned yn anwyl genym. Canys cof yw genych, frodyr, ein llafur a’n lludded ni; gàn weithio nos a dydd, fel na phwysem àr neb o honoch, ddarfod i ni bregethu i chwi efengyl Duw. Tystion oeddych chwi, a Duw hefyd, mòr santaidd, a chyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom tuag atoch chwi, y rhai, ydych yn credu. Megys hefyd, y gwyddoch, y modd y buom yn cyfarch pob un o honoch, fel tad ei blant ei hun, gàn eich cynghori a’ch cysuro chwi; a thystiolaethu y dylech rodio yn deilwng o Dduw, yr hwn á’ch galwodd idd ei deyrnas o ogoniant. Oblegid hyn hefyd yr ydym yn diolch i Dduw, yn ddibaid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch athrawiaeth Duw à gyhoeddid genym ni, dderbyn, nid gair dynion; eithr (fel yn wir y mae) gair Duw, yr hwn, yn ddiau, sydd yn gweithio yn rymus ynoch chwi y credinwyr. Canys chwi á aethoch, frodyr, yn ddilynwyr i gynnulleidfäoedd Duw, y rhai sydd yn Iuwdea yn Nghrist Iesu; oblegid chwithau á ddyoddefasoch yr un pethau oddwrth eich cydwladwyr eich hunain, megys hwythau oddwrth yr Iuddewon, y rhai á laddasant yr Arglwydd Iesu a’r prophwydi, ac á’n herlidiasant ninnau yn dost, ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn: yn gwahardd i ni lefaru wrth y Cenedloedd, fel y byddont gadwedig; nes y maent yn cyflawni mesur eu pechodau yn wastadol: ond y mae digofaint Duw yn dyfod arnynt o’r diwedd. Ninnau, frodyr, wedi ein gwahanu oddwrthych dros ychydig amser, o ràn presennoldeb, nid o ràn serch, á ymdrechasom yn fwy egniol, gydag awydd mawr, am weled eich wyneb chwi. Am hyny ni á fỳnasem ddyfod atoch (ïe myfi, Paul,) lawer o weithiau, eithr y gwrthwynebwr á’n rhwystrodd ni. Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? Onid chychwi, gèr bron ein Harglwydd Iesu Grist, yn ei ddyfodiad? Chychwi, yn wir, yw ein gogoniant a’n llawenydd ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.