Gweithredoedd 22 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-21Frodyr a thadau, gwrandewch fy ymddiheurad, yr wyf yn ei wneuthur wrthych yr awrhon. A phan glywsant mai yn y llafarwedd Hebreig yr oedd efe yn eu hanerch, hwy á roisant iddo osteg gwell: ac efe á ddywedodd, Gwr wyf fi, yn wir, o Iuddew, á aned yn Nharsus yn Nghilicia; ond wedi fy nwyn i fyny yn y ddinas hon, wrth draed Gamaliel, wedi fy addysgu yn ol manylrwydd cyfraith ein tadau; gàn fod yn eiddigus dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddyw: yr hwn á erlidiais y ffordd hon hyd angeu; gàn rwymo gwŷr a gwragedd, a’u traddodi hwynt i garcharau: megys hefyd y mae yr archoffeiriad yn dyst i mi, a holl senedd y genedl: gàn y rhai hefyd wedi derbyn llythyrau at y brodyr, myfi á aethym i Ddamascus; i ddwyn y rhai oedd yno yn rwym i Gaersalem, fel y cosbid hwy. A dygwyddodd, a myfi àr fy nhaith, a gwedi dyfod yn agos i Ddamascus, yn nghylch hanner dydd, i oleuni mawr o’r nef felltènu o’m hamgylch; a mi á syrthiais àr y ddaiar, ac á glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Minnau á atebais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac yntau á ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu, o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. A’r rhai oedd gyda mi á welsant y goleuni, yn ddiau, ac á ddychrynasant; ond ni chlywsant yn eglur lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. A myfi á ddywedais, Arglwydd, beth á wnaf? A’r Arglwydd á ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus, ac yno y dywedir i ti am bob peth à osodwyd i ti iddeu gwneuthur. A phryd nad allwn weled, oherwydd gogoniant y goleuni hwnw; gàn gael fy nhywys gàn y rhai oedd gyda mi, myfi á ddaethym i Ddamascus. Ac un Ananias, gwr duwiol yn ol y gyfraith, yr hwn oedd a gair da iddo yn mhlith yr holl Iuddewon yn Namascus, wedi dyfod ataf, a sefyll yn fy ymyl, á ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, edrych i fyny. Ac, yn yr awr hòno, mi á edrychais i fyny arno ef. Ac efe á ddywedodd, Duw ein tadau ni á’th ddewisodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnw, ac i glywed llais o’i enau ef; canys ti á fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau à welaist ac á glywaist. Ac yr awrhon, beth yr wyt ti yn ei aros? Cyfod, a throcher di, a golch ymaith dy bechodau, gàn alw àr ei enw ef. A darfu, gwedi i mi ddyfod yn fy ol i Gaersalem, fel yr oeddwn yn gweddio yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg: a mi á’i gwelais ef, yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos àr frys allan o Gaersalem; o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi. A minnau á ddywedais, Arglwydd, hwy á wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn fflangellu yn y cynnullfëydd, y rhai à gredent ynot ti; a phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gèr llaw, ac yn cydsynio, ac yn cadw dillad y rhai à’i lladdent ef. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Dos ymaith, canys mi á’th anfonaf yn mhell at y Cenedloedd –

22-29A hwy á’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn, a hwy á godasant eu llef, gàn ddywedyd, Ymaith â’r cyfryw un oddar y ddaiar, canys nid cymhwys ei fod ef yn fyw. A fel yr oeddynt yn llefain, ac yn rhwygo eu dillad, ac yn taflu llwch i’r awyr, y cadben á orchymynodd ei ddwyn ef i’r castell, gàn ddywedyd, y byddai iddo gael ei holi drwy fflangellau, fel y gallai efe wybod am ba achos yr oeddynt yn cyfodi y fath wrthgri yn ei erbyn ef. A fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad, yr hwn á safai gerllaw, Ai cyfreithlawn i chwi fflangellu dyn à sy Rufeinwr, a heb ei euogfarnu hefyd? A’r canwriad wedi clywed hyn, á aeth ac á gyfarchodd y cadben, gàn ddywedyd, Beth yr wyt àr fedr ei wneuthur? oblegid Rhufeinwr yw y dyn hwn. A’r cadben á ddaeth, ac á ddywedodd, wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeinwr wyt ti? Ac efe á ddywedodd, Ië. A’r cadben á atebodd, A sum mawr o arian y cefais i y ddinasfraint hon. A Phaul á adatebodd, Minnau á anwyd yn ddinesydd Rhufeinig. Y sawl, gàn hyny, oedd àr fedr ei holi ef, á ymadawsant yn ebrwydd oddwrtho: a’r cadben á ofnodd, pan wybu mai Rhufeinwr oedd efe, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.

30A thranoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yn sicr am ba beth y cyhuddid ef gàn yr Iuddewon, efe á’i gollyngodd ef yn rydd; ac á archodd i’r archoffeiriaid, a’r holl Sanhedrim ddyfod yn nghyd; a gwedi iddo ddwyn Paul i waered, efe á’i gosododd ef gèr eu bron hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help