1-25Am hyny, os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd àr ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch àr bethau sydd uchod; nid àr bethau sydd àr y ddaiar. Canys meirw á fuoch, a’ch bywyd á guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist, ein bywyd ni, yna yr ymddangoswch chwithau hefyd gydag ef mewn gogoniant. Marwolaethwch, gàn hyny, eich aelodau y sydd àr y ddaiar: puteindra, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod yr hwn sydd eilunaddoliaeth; o achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod àr blant yr anufydd‐dod: yn yr hyn bethau y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddych yn byw gyda hwynt. Ond yn awr rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; digder, llid, malais, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gàn ddarfod i chwi ddyosg yr hen ddyn, yn nghyd â’i weithredoedd; a gwisgo y newydd, yr hwn á adnewyddir drwy wybodaeth, yn ol delw yr hwn à’i creodd ef; – lle nad oes na Groegwr nac Iuddew; enwaediad na dienwaediad; barbariad, Scythiad; caeth na rhydd; ond Crist sy bob peth, ac yn mhob peth. Am hyny, megys etholedigion Duw, santaidd ac anwyl, gwisgwch ymysgaroedd tosturi, cymwynasgarwch, iselfrydedd, addfwynder, hirymaros. Cyd‐ddygwch â’ch gilydd, a maddeuwch i’ch gilydd, os bydd gàn neb gwyn yn erbyn neb: megys y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac àr y pethau hyn oll gwisgwch gariad, yr hwn sy rwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangnefedd Crist yn eich calonau: i’r hwn hefyd ych galwyd yn un corff, a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth; gyda phob doethineb dysgwch a rhybyddiwch eich gilydd drwy salmau, ac emynau, ac odlau ysbrydol; gàn ganu gyda diolchgarwch yn eich calonau i Dduw. A pha beth bynag á wneloch, àr air neu àr weithred, gwnewch bob peth yn enw yr Arglwydd Iesu, gàn ddiolch i Dduw, sef y Tad, drwyddo ef. Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, fel y mae yn weddus yn yr Arglwydd. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, a na fyddwch chwerwon wrthynt. Y plant, ufyddêwch i’ch rhieni yn mhob peth; canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonont. Y gweision, ufyddêwch yn mhob peth i’ch meistriaid yn ol y cnawd; nid â llygadwasanaeth, fel dynfoddäwyr, eithr â chywirdeb calon, fel rhai yn ofni Duw. A pha beth bynag á wneloch, gweithiwch o’r galon, megys i’r Arglwydd, a nid i ddynion: gàn wybod mai gàn yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth; canys yr Arglwydd Grist yr ydych yn ei wasanaethu. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur àr gam, á dderbyn am y cam à wnaeth; canys nid oes derbyn wyneb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.