1-22Yr un ffunud, y gwragedd, byddwch ddarostyngedig i’ch gwŷr priod; fel, od oes neb o honynt heb ufyddáu i’r gair, y galler, drwy ymarweddiad eu gwragedd, eu hynnill heb y gair, (wrth edrych àr eich ymarweddiad diwair chwi yn nghyda pharch;) trwsiad y rhai bydded nid yr un allanol, – plethiad gwallt, amgylch‐osodiad aur, neu wychder dillad; eithr – cuddiedig ddyn y galon, gydag addurn anllygredig ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd o fawr werth yn ngolwg Duw. Canys felly, gynt, yr oedd y gwragedd santaidd hefyd, y rhai oedd yn ymddiried yn Nuw, yn ymdrwsio, gàn fod yn ddarostyngedig iddeu gwŷr priod; megys yr ufyddâodd Sarah i Abraham, gàn ei alw ef yn Arglwydd; merched yr hon ydych chwi, tra byddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn. Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanneddwch â’ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gàn roddi parch i’r wraig, megys i’r llestr gwanaf, a fel cydetifeddion rhad y bywyd, rhag rhwystro eich gweddiau. Yn ddiweddaf, byddwch oll yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn frawdgar, yn dosturiol, yn fwynaidd; – nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond, yn y gwrthwyneb, yn bendithio; gàn wybod mai i hyn ych galwyd, fel yr etifeddoch y fendith. “Canys y neb sydd yn chwennych mwynâu bywyd, a gweled dyddiau da, cadwed ei dafod rhag drwg, a’i wefusau rhag traethu twyll. Cilied oddwrth ddrwg, a gwnaed dda; ceisied heddwch, a dilyned ef. Canys llygaid yr Arglwydd sydd àr y rhai cyfiawn, a’i glustiau sydd yn agored iddeu gweddi hwynt; eithr wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.” Heblaw hyny, pwy á’ch dryga chwi os byddwch ddilynwyr y Bod Daionus? Er hyny os bydd i chwi hyd y nod ddyoddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych. Am hyny, nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer; eithr santeiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonau; a byddwch barod bob amser i roddi ateb, gydag addfwynder a pharch, i bob un à ofyno i chwi reswm am y gobaith, y sydd ynoch. Deliwch gydwybod dda, fel yn gymaint a’u bod yn eich goganu megys drygweithredwyr, y cywilyddio y rhai sydd yn beio àr eich ymarweddiad da chwi yn Nghrist. Canys gwell yw dyoddef fel rhai yn gwneuthur daioni, os ewyllys Duw á’i myn, na fel rhai yn gwneuthur drygioni. Oblegid Crist ei hun á ddyoddefodd unwaith dros bechodau, y cyfiawn dros yr annghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw; gwedi ei farwolaethu, yn wir, yn y cnawd, eithr ei fywâu gàn yr Ysbryd. Drwy yr hwn y gwnaeth efe gyhoeddedigaeth i’r ysbrydion yn ngharchar, y rhai á fu gynt anufydd, pan unwaith yr oedd hiramynedd Duw yn aros yn nyddiau Noah, tra y darperid arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, á achubwyd drwy ddwfr; – y gwrthlun, trochiad, sydd yr awrhon yn ein hachub ninnau, (nid bwriad ymaith fudreddi y cnawd, eithr ymofyniad cydwybod dda tuagat Dduw,) drwy adgyfodiad Iesu Grist; yr hwn, wedi myned i’r nef, sydd àr ddeheulaw Duw; a’r angylion, a’r awdurdodau, a’r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.