1 Paul, Apostol i Iesu Grist drwy ewyllys Duw, a Thimothëus y brawd, at y saint a’r ffyddlawn frodyr yn Nghrist, y rhai sydd yn Ngholosse; Rhad i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
2-29Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yn wastadol, pan yn gweddio drosoch chwi; gwedi clywed o honom am eich ffydd yn Nghrist Iesu, ac am y cariad y sy genych at yr holl saint; – èr mwyn y gobaith à roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o’r blaen yn ngair gwirionedd yr efengyl, yr hon y sy bresennol yn eich plith chwi, megys y mae hefyd yn yr holl fyd, ac y sydd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, megys ag yn eich plith chwithau, èr y dydd y clywsoch ac y gwybuoch rad Duw mewn gwirionedd; – megys ag y dysgasoch gan Epaphras, ein hanwyl gydwas, yr hwn sy drosoch chwi yn ffyddlawn weinidog i Grist, yr hwn hefyd á amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr ysbryd. O herwydd hyn ninnau hefyd, èr y dydd y clywsom y pethau hyn, nid ydym yn peidio a gweddio drosoch, a deisyfu àr gael o honoch eich llenwi â gwybodaeth o’i ewyllys ef, yn mhob doethineb a dëall ysbrydol; – fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gàn ddwyn ffrwyth drwy bob gweithred dda, a chynnyddu mewn gwybodaeth am Dduw; gwedi eich nerthu â phob nerth, yn ol ei gadernid gogoneddus ef, i bob dyoddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd: gàn ddiolch i’r Tad, yr hwn á’n gwnaeth ni yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; yr hwn á’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac á’n symudodd i deyrnas ei anwyl Fab: drwy yr hwn y mae i ni brynedigaeth, sef maddeuant pechodau. Efe yw delw y Duw anweledig, cyntafanedig yr holl grëaduriaeth. Oblegid drwyddo ef y crëwyd pob dim y sydd yn y nefoedd, ac y sydd àr y ddaiar; yn bethau gweledig, ac yn bethau anweledig; pynag ai gorseddau, ai arglwyddiaethau, ai llywodaethau, ai awdurdodau; pob dim á grëwyd drwyddo ef ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth; a thrwyddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ac efe yw pen y corff, sef y gynnulleidfa. Efe yw y dechreuad, y cyntafanedig oddwrth y meirw, fel yn mhob peth y byddai efe yn blaenori. Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad, fod i’r holl gyflawnder drigo ynddo ef; a thrwyddo ef gymmodi pob peth âg ef ei hun, wedi iddo wneuthur heddwch drwy waed ei groes ef; drwyddo ef, meddaf, pynag ai pethau ár y ddaiar, ai pethau yn y nefoedd. A chwithau, y rhai oeddych gynt yn ddyeithriaid mewn meddwl, ac yn elynion drwy weithredoedd drwg, yr awrhon, yn wir, á gymmododd efe drwy gorff ei gnawd ef drwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn santaidd ac yn ddifeïus, ac yn ddiargyhoedd, yn ei olwg ef; os ydych yn parâu yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sefydlu, ac heb eich syflyd oddwrth obaith yr efengyl, yr hon á glywsoch, yr hon á gyhoeddwyd i bob creadur y sy dàn y nef; i’r hon ym gwnaethwyd i, Paul, yn weinidog. Yr ydwyf yn awr yn llawenychu mewn dyoddefiadau drosoch, ac yn cyflawni yr hyn sydd yn ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, èr mwyn ei gorff ef, yr hwn yw y gynnulleidfa; i’r hon ym gwnaethwyd i yn weinidog, yn ol goruchwyliaeth Duw, yr hon á roddwyd i mi o’ch rhan chwi, i gyflawn fynegi gair Duw, – y dirgelwch à gadwasid yn guddiedig rhag yr oesoedd, a rhag y cenedlaethau, ond yn awr á eglurwyd iddei saint ef; i’r rhai y gwelodd Duw yn dda hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn yn mhlith y Cenedloedd, yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: yr hwn yr ydym ni yn ei gyhoeddi, gàn rybyddio pob dyn, a dysgu pob dyn, â phob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yn Nghrist. Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gàn ymdrechu yn egniol, yn ol ei rymus weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi gyda nerth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.