1-17Nid oes, gàn hyny, ddim colledigaeth, yn awr, i’r rhai sydd yn Nghrist Iesu. Canys cyfraith Ysbryd y Bywyd, drwy Grist Iesu, á’m rhyddâodd i oddwrth gyfraith pechod a marwolaeth. Canys yr hyn nis gallai y gyfraith ei gwblâu, oherwydd ei bod yn wan drwy ’r cnawd; Duw, gwedi danfon ei Fab ei hun, yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, a’i cwblâodd; a thrwy aberth dros bechod, á gollfarnodd bechod yn y cnawd. Fel y cyflawnid cyfiawnder y gyfraith genym ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd, eithr yn ol yr Ysbryd. Canys y rhai sydd yn byw yn ol y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn synied; a’r rhai sydd yn byw yn ol yr Ysbryd, am bethau yr Ysbryd. Eithr syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr Ysbryd, bywyd a thangnefedd yw; oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys, i gyfraith Duw nid yw ddarostyngedig; ac, yn wir, nis gall fod chwaith. Y rhai sydd yn y cnawd, gàn hyny, nis gallant ryngu bodd Duw. Eithr chychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd; am fod Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef. Ac os yw Crist ynoch, y mae y corff yn farw, gyda golwg àr bechod; eithr yr ysbryd yn fywyd, gyda golwg àr gyfiawnder. Canys, os yw Ysbryd yr hwn à gyfododd Iesu o feirw, yn trigo ynoch; yr hwn á gyfododd Grist o feirw, á fywiocâa hyd y nod eich cyrff marwol chwi, drwy ei Ysbryd, yr hwn sydd yn trigo ynoch. Am hyny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ol y cnawd. Canys, os byw yr ydych yn ol y cnawd, meirw fyddwch; eithr os ydych, drwy yr Ysbryd, yn marwolaethu gweithredoedd y corff, byw fyddwch. Canys y sawl à arweinir gàn Ysbryd Duw, y rhai hyn sy blant i Dduw. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed, drachefn, i beri ofn; eithr derbyniasoch ysbryd mabwysiad, drwy yr hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. Hefyd, y mae yr Ysbryd ei hun yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ; os ydym yn cyd‐ddyoddef gydag ef, fel gydag ef yn cydogonedder hefyd.
18-25Pa fodd bynag, nid ydwyf yn cyfrif bod dyoddefiadau yr amser presennol hwn yn haeddu eu cymharu â’r gogoniant dyfodol, à sydd i gael ei ddadguddio ynom ni. Canys awyddfryd y crëadur, sydd yn dysgwyl am ddadguddiad meibion Duw. Canys y creadur á ddarostyngwyd i oferedd, (nid o’i fodd, eithr gàn yr hwn à’i darostyngodd ef,) dan obaith y caiff ei ryddâu o gaethiwed cyflwr llygredig, a’i ddwyn i ryddid gogoneddus plant Duw. Heblaw hyny, ni á wyddom bod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio, hyd y pryd hwn. A nid yn unig hwy, ond ninnau, hefyd, y rhai sy genym flaenffrwyth yr Ysbryd; yr ydym ninnau ein hunain hefyd, yn ocheneidio ynom ein hunain, gàn ddysgwyl y mabwysiad; sef prynedigaeth ein corff. Canys drwy obaith ein hachubwyd. Eithr, gobaith à sy bresennol, nid yw obaith; oblegid pwy á ddichon obeithio am yr hyn y mae yn ei fwynâu? Ond os ydym ni yn gobeithio am yr hyn nid ym yn ei fwynâu, yna, yr ydym drwy amynedd yn dysgwyl am dano.
26-39Yr un ffunud, hefyd, y mae yr Ysbryd yn cynnorthwyo ein gwendidau ni; canys ni wyddom ni beth á weddiom, megys y dylem; eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn drosom ni, mewn ocheneidiau anrhaethadwy. Ond yr hwn sydd yn chwilio y calonau, á ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; ei fod ef, yn ol ewyllys Duw, yn erfyn dros y saint. Heblaw hyn, ni á wyddom bod pob peth yn cydweithio èr daioni, i’r rhai sydd yn caru Duw; i’r rhai sy gwedi eu galw yn ol ei arfaeth ef. Oblegid y rhai à ragwybu, á ragbenododd efe hefyd i fod yn unffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntafanedig yn mhlith brodyr lawer. A’r rhai à ragbenododd efe, y rhai hyny hefyd á alwodd efe: a’r rhai à alwodd efe, y rhai hyny hefyd á gyfiawnâodd efe; a’r rhai à gyfiawnâodd efe, y rhai hyny hefyd á ogoneddodd efe. Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Gan bod Duw drosom, pwy á all fod i’n herbyn? Yr hwn nid arbedodd, hyd y nod ei briod Fab, ond á’i traddododd ef drosom ni oll; pa wedd, gydag ef hefyd, na ddyry efe i ni bob peth? Pwy á rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Ai Duw, yr hwn sydd yn eu cyfiawnâu hwynt? Pwy yw yr hwn sydd yn eu collfarnu? Ai Crist, yr hwn à fu farw; neu yn hytrach, yr hwn á gyfodwyd: yr hwn hefyd sydd àr ddeheulaw Duw; a’r hwn sydd yn eiriol drosom ni? Pwy á’n gwahana ni oddwrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? Megys y mae yn ysgrifenedig, “Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni àr hyd y dydd: cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa.” Eithr yn y pethau hyn oll, yr ydym ni yn fwy na gorchfygwyr, drwy yr hwn à’n carodd ni, Canys y mae yn ddiogel genyf, nas gall nac angeu, nac einioes; nac angylion, na thywysogaethau; na phethau presennol, na phethau i ddyfod; nac awdurdodau, nac uchder, na dyfnder; nac un peth crëedig arall, ein gwahanu ni oddwrth gariad Duw, yr hwn sy drwy Grist Iesu ein Harglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.