Titus 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-4 Paul, gwas i Dduw, ac Apostol i Iesu Grist, (èr mwyn ffydd etholedigion Duw, a chydnabyddiaeth y gwirionedd y sydd èr duwioldeb, – dan obaith bywyd tragwyddol, yr hwn á addawodd y digelwyddog Dduw cyn amseroedd yr oesau; – yr hwn yn awr á eglurodd ei air, yn yr amser priodol, drwy y cyhoeddedigaeth am yr hwn yr ymddiriedwyd i mi, yn ol gosodiad Duw ein Hiachawdwr;) at Ditus, fy mab naturiol, yn ol y ffydd gyffredin: Rhad, trugaredd, a thangnefedd, oddwrth Dduw Dad, ac oddwrth yr Arglwydd Iesu Grist, ein Hiachawdwr.

5-16Er mwyn hyn yth adewais yn Nghreta, fel yr iawndrefnit y pethau oedd yn ol, ac y gosodit henuriaid yn mhob dinas, megys y gorchymynais i ti. Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, a chanddo blant crediniol, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn afreolus. – Canys dylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddigllawn, nid yn wingar, nid yn darawydd, nid yn budrelwa; eithr yn llettyugar, yn caru dynion da, yn bwyllig, yn gyfiawn, yn santaidd, yn dymherus; yn dal yn lew y wir athrawiaeth, megys y dysgwyd ef; fel y gallo drwy athrawiaeth iachus, gynghori ac argyhoeddi y rhai sydd yn gwrthddywedyd. Canys y mae llawer yn afreolus, yn ofersiaradus, ac yn dwyllwyr, yn enwedig y rhai o’r enwaediad, y rhai y mae yn raid cau eu safnau: y rhai sydd yn dymchwelyd teuluoedd cyfan, gàn athrawiaethu pethau ni ddylid èr mwyn budr elw. Un o honynt hwy eu hunain, un o’u prophwydi hwy eu hunain, á ddywedodd, “Y Cretiaid sy bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, glythion gor-ddiog” Y dystiolaeth hon sydd wir; am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd, heb roi coel i chwedlau Iuddewaidd, a gorchymmynion dynion y rhai sydd yn gwyrdroi y gwirionedd. Pur yn ddiau yw pob bwyd i’r rhai pur; eithr i’r rhai halogedig a’r diffydd, nid pur dim; canys halogedig yw hyd y nod eu meddwl a’u cydwybod hwy. Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr àr weithredoedd ei wadu y maent, gàn fod yn ffiaidd ac yn anufydd, ac at bob gwaith da yn annghymeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help