1-8Mae y gair yn gyffredin bod yn eich plith chwi losgach; a’r cyfryw losgach nad ydyw hyd y nod yn mysg y cenedloedd – bod gàn un wraig ei dad. Ac yr ydych chwi gwedi ymchwyddo, a ni alarasoch yn hytrach, fel y tỳnid o’ch mysg chwi y neb à wnaeth y weithred hon. Am hyny, myfi, yn wir, fel yn absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, á fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, yr hwn á wnaeth y weithred hon. Fy marn i yw hyn: Pan ymgynnulloch yn nghyd, a’m hysbryd innau gyda chwi; yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist, draddodi o honoch y cyfryw un i Satan èr dinystr y cnawd, fel y byddo yr ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu. Nid gweddaidd eich ymffrost chwi. Oni wyddoch chwi bod ychydig lefain yn lefeinio yr holl does? Am hyny, certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megys yr ydych ddilefeinllyd; canys Crist, ein pasc ni, á aberthwyd drosom ni. Am hyny, cadẅwn yr wyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni, ond â bara croew purdeb a gwirionedd.
9-10Mi á ysgrifenais atoch, yn y llythyr hwnw, na chymdeithasech â’r rhai drygionus; ond nid oeddwn yn golygu yn gyffredinol buteinwyr y byd hwn, y cybyddion, y cribddeiliwyr, neu yr eilunaddolwyr; oblegid felly, rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd.
11-13Ond yn awr yr wyf yn ysgrifenu atoch, os bydd neb, à enwir yn frawd, yn buteiniwr, neu yn gybydd, neu yn eilunaddolwr, neu yn ddifenẅwr, neu yn feddwyn, neu yn gribddeiliwr; na chymdeithasoch, a na fwytäoch chwaith gyda ’r cyfryw un. Canys beth sydd i mi à wnelwyf â rhoddi barn àr y rhai sydd oddiallan? Onid y rhai sydd oddifewn yr ydych chwi yn eu barnu? Eithr y rhai sydd oddiallan, Duw sydd yn eu barnu. Am hyny, bwriwch ymaith y dyn drygionus o’ch plith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.