Ioan 8 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1pob un á aeth iddei dŷ ei hun; ond Iesu á aeth i fynydd yr Oleẅwydd.

2-11Yn gynnar yn y bore, efe á ddychwelodd i’r deml, a gwedi i’r holl bobl ddyfod ato, efe á eisteddodd ac á’u dysgodd hwynt. Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid á ddygasant ato ef wraig yr hon á ddaliesid mewn godineb; a gwedi ei gosod hi yn y canol, á ddywedasant wrtho, Rabbi, y wraig hon á ddaliwyd àr y weithred yn godinebu. A Moses, yn y gyfraith, á orchymynodd fod i’r cyfryw gael eu llabyddio; a pha beth yr wyt ti yn ei ddywedyd? Hyn á ddywedasant hwy iddei brofi ef, fel y gallent gael achos iddei gyhuddo ef. Ond Iesu gwedi ymgrymu tua’r llawr, oedd yn ysgrifenu â’i fys àr y ddaiar. Fel yr oeddynt hwy yn parâu yn gofyn iddo, efe á ymuniawnodd, ac á ddywedodd wrthynt, Yr hwn sy ddibechod o honoch, tafled y gàreg gyntaf ati hi. Gwedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe á ysgrifenodd àr y ddaiar. Hwythau gwedi clywed hyny, á aethant allan o un i un, y rhai hynaf, yn gyntaf, hyd oni adawyd Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. Iesu, gwedi ymuniawni, a heb weled neb ond y wraig, á ddywedodd wrthi, Wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr hyny? A ddarfu i neb roddi collfarn arnat? Hithau á atebodd, Naddo neb, sỳr. Iesu á ddywedodd wrthi, Nid wyf finnau chwaith yn rhoddi collfarn arnat. Dos, a na phecha mwyach.

12-20Iesu drachefn á gyfarchodd y bobl, gàn ddywedyd, Goleuni y byd ydwyf fi: y neb sydd yn fy nylyn i, ni rodia mewn tywyllwch, ond á gaiff oleuni y bywyd. Y Phariseaid, gàn hyny, á wrthatebasant, Yr wyt ti yn tystiolaethu am danat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di yn haeddu ei chredu. Iesu á atebodd, Er fy mod i yn tystiolaethu am danaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn haeddu ei chredu; oblegid mi á wn o ba le y daethym, ac i ba le yr wyf yn myned. Am danoch chwi, nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. Yr ydych chwi yn barnu oddiar nwyd, nid wyf fi yn barnu neb: ac os wyf fi yn gwneyd, y mae fy marn i yn haeddu ei chredu; oblegid nid wyf fi yn unig, ond yn cydsynied â’r Tad, yr hwn á’m hanfonodd i. Y mae yn arwireb yn eich cyfraith chwi, bod tystiolaeth gydunol dau yn gredadwy. Yr wyf fi yn un sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun; y Tad yr hwn á’m hanfonodd i sydd un arall yn tystiolaethu am danaf fi. Yna hwy á ofynasant iddo, Pa le y mae dy Dad di? Iesu á atebodd, Nid adwaenoch na myfi na’m Tad; ped adnabuasech fi, chwi á adnabuasech fy Nhad hefyd. Y pethau hyn á lefarodd efe yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: a ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.

21-32Iesu á ddywedodd wrthynt drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith; chwi á ’m ceisiwch i, ac á fyddwch feirw yn eich pechodau; lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. Yna yr Iuddewon á ddywedasant, A ladd efe ei hun, gàn ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod? Efe á ddywedodd wrthynt, Chychwi ydych oddi isod; minnau wyf oddi uchod. Chychwi ydych o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn; am hyny y dywedais, Chwi á fyddwch feirw yn eich pechodau; oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi á fyddwch feirw yn eich pechodau. Yna hwy á ofynasant iddo, Pwy wyt ti? Iesu á atebodd, Yr un un ag y dywedais i wrthych gynt. Y mae genyf fi lawer o bethau iddeu dywedyd am danoch, ac iddeu ceryddu ynoch chwi; eithr gwiwgred yw yr hwn à’m hanfonodd i; a nid wyf fi ond cyhoeddi i’r byd y pethau à ddysgais ganddo ef. Ni chanfuant hwy mai y Tad á feddyliai efe. Iesu, gàn hyny, á ddywedodd wrthynt, Pan godoch chwi Fab y Dyn yn uchel, yna y cewch wybod beth ydwyf fi; a nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, nac yn dywedyd dim ond à ddysgodd y Tad i mi. A’r hwn à’m hanfonodd i sy gyda myfi. Ni adawodd y Tad fi yn unig, oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd yn rhyngu ei fodd ef. Tra yr ydoedd efe yn llefaru fel hyn, llawer á gredasant ynddo ef. Yna y dywedodd Iesu wrth yr Iuddewon hyny à’i credasant ef, Os parêwch yn fy nysgeidiaeth i, dysgyblion i mi ydych yn wir. A chwi á gewch wybod y gwirionedd; a’r gwirionedd á’ch rhyddâa chwi.

33-47Rhai á atebasant, Hiliogaeth Abraham ydym ni, a ni buom gaethion i neb erioed. Pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi á wneir yn rhyddion? Iesu á adatebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, pwybynag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaethwas i bechod. A nid yw y caethwas yn aros yn y teulu byth; y Mab sydd yn aros byth. Os y Mab, gàn hyny, á’ch rhyddâa chwi, rhyddion fyddwch yn wir. Mi á wn mai hiliogaeth Abraham ydych; èr hyny yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy athrawiaeth i yn cael lle ynoch chwi. Yr wyf fi yn llefaru yr hyn à welais gyda ’m Tad i; ac yr ydych chwithau yn gwneuthur yr hyn à ddysgasoch gàn eich tad chwithau. Hwythau á atebasant, Ein tad ni yw Abraham. Iesu á adatebodd, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham á wnaech. Ond yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn à ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn á dderbyniais i gàn Dduw. Nid fel hyn y gwnaeth Abraham. Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Hwythau á atebasant, Nid drwy buteindra y cenedlwyd ni. Un Tad sy genym ni, sef Duw. Iesu á adatebodd, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi á’m carech i; canys oddwrth Dduw y deilliais, ac y daethym i. Nid o honof fy hun y daethym i. Efe á’m hanfonodd i. Paham nad ydych yn deall fy iaith i? Am na ellwch wrandaw fy athrawiaeth i. Eich tad chwi yw y diafol, a chwantau eich tad á fỳnwch chwi eu boddiaw; lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; efe á wyrodd oddwrth y gwirionedd, am nad oes eirwiredd ynddo. Pan y mae yn dywedyd celwydd, y mae yn llefaru yn gydweddol â’i nodweddiad; canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad y celwydd. Am danaf fi, am fy mod yn dywedyd y gwir, nid ydych yn fy nghredu i. Pwy o honoch á’m hargyhoedda i o anwiredd? Ac od wyf fi yn dywedyd gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i? Yr hwn sydd o Dduw, sydd yn ystyried geiriau Duw. Nid ydych chwi yn eu hystyried, am nad ydych o Dduw.

48-59Yna yr Iuddewon á atebasant, Onid iawn yr ydym ni yn dywedyd, Samariad wyt ti, ac y mae cythraul genyt? Iesu á adatebodd, Nid oes genyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. Am danaf fi, nid wyf fi yn ceisio dyrchafu fy ngoniant fy hun; arall sydd yn ei geisio yr hwn sydd yn barnu. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwybynag á geidw fy ngair i; ni wel efe farwolaeth yn dragywydd. Yna yr Iuddewon á ddywedasant wrtho, Yn awr yr ydym yn sicr bod gènyt gythraul: bu Abraham farw, a’r proffwydi; èr hyny meddi di, Pwybynag á geidw fy ngair i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn á fu farw? Y proffwydi hefyd á fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? Iesu á atebodd, Os wyf fi yn fy nghanmol fy hun, fy nghanmoliaeth i nid yw ddim: fy Nhad, yr hwn yr ydych chwi yn ei alw yn Dduw i chwi, yw yr hwn sydd yn fy nghanmol i. Er hyny, nid adwaenoch chwi ef, ond myfi á’i hadwaen ef; a phe dywedwn, Nid adwaen ef, mi á ddywedwn anwiredd, fel chwi; ond yr wyf fi yn ei adnabod ef, ac yn cadw ei air ef. Gorfoledd oedd gàn eich tad Abraham y gwelai efe fy nydd i; ac efe á’i gwelodd, ac á lawenychodd. Yr Iuddewon á adatebasant, Nid wyt ti eto ddengmlwydd a deugain oed, ac á welaist ti Abraham? Iesu á atebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Cyn geni Abraham, yr wyf fi. Yna hwy á godasant gèryg iddeu taflu ato ef; ond Iesu á ymguddiodd, ac á aeth allan o’r deml.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help