1-16Eithr y mae yr Ysbryd yn dywedyd yn eglur, y gwrthgilia rhai mewn amseroedd i ddyfod oddwrth y ffydd, gàn roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau am gythreuliaid: drwy ragrith rhai yn dywedyd celwydd, y rhai sy gwedi eu serio o ran eu cydwybod eu hunain; y rhai sydd yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymattal oddwrth fwydydd, y rhai á greodd Duw idd eu derbyn drwy roddi diolch gàn y ffyddloniaid, y rhai sydd yn gwybod y gwirionedd yn gyflawn; – bod pob peth à greodd Duw yn dda, a’i gymeryd gyda diolchgarwch, ac nid oes dim iddei wrthod; canys y mae gwedi ei santeiddio, gàn air Duw, a gweddi. Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti á fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu drwy eiriau y ffydd, a’r athrawiaeth dda, gwybodaeth o’r hon á gyrhaeddaist. Eithr gad heibio halogedig a gwrachiaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb: canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol; eithr duwioldeb sy fuddiol i bob peth, a chanddo addewid o’r bywyd y sydd yr awrhon, ac o’r hwn à fydd. Y gair hwn sydd wir, ac yn haeddu pob derbyniad. Hefyd, èr mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, – am ein bod yn gobeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. Y pethau hyn gorchymyn, a dysg. Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn enghraifft i’r ffyddloniaid mewn ymadrodd, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ffydd, mewn diweirdeb. Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. Nac esgeulusa y dawn ysbrydol y sydd ynot, yr hwn á rodded i ti drwy brophwydoliaeth, gydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth. Myfyria àr y pethau hyn. Aros yn hollol ynynt, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac àr dy athrawiaeth; aros ynynt; canys, wrth wneuthur hyn, ti á’th gedwi dy hun, a’r rhai à wrandawant arnat.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.