1-14Canys pob archoffeiriad, wedi ei gymeryd o blith dynion, á osodir i wneuthur dros ddynion y pethau à berthyn i Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: gàn y dichon efe dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac yn cyfeiliorni; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. Ac o achos hyny y mae yn raid iddo, megys dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu aberthau dros bechodau. Ac, megys nad yw neb yn cymeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn à alwyd gàn Dduw, megys Aaron; felly Crist hefyd nis cymerodd iddo ei hun yr anrhydedd o fod yn Archoffeiriad: ond yr hwn à ddywedodd wrtho, “Tydi yw fy Mab, myfi heddyw á’th genedlais di,” sydd yn dywedyd hefyd mewn lle arall, “Offeiriad wyt ti yn dragywydd, yn oll urdd Melchisedec.” Yr hwn, yn nyddiau ei gnawd, wedi iddo, drwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddiau ac erfyniau at yr hwn oedd alluog iddei achub ef oddwrth farwolaeth, a chael ei wared oddwrth ei ofn, – èr ei fod yn Fab, á ddysgodd ufydd‐dod drwy y pethau à ddyoddefodd; a gwedi ei berffeithio, efe á wnaethwyd yn awdur iechydwriaeth dragwyddol i’r rhai oll à ufyddâant iddo; gwedi ei gyfarch gàn Dduw yn Archoffeiriad yn ol urdd Melchisedec: (am yr hwn y mae genym lawer iddeu dywedyd, ac anhawdd eu deongli, gàn eich bod chwi yn hwyrdrwm eich deall. Canys lle y dylasech, erbyn hyn, fod yn athrawon, y mae arnoch eisieu dysgu i chwi drachefn egwyddorion dechreuol athrawiaeth Duw; ac yr ydych yn raid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. Ac y mae pob un sydd yn ymarfer â llaeth yn annghyfarwydd â gair cyfiawnder, canys maban yw: canys bwyd cryf á berthyn i’r rhai mewn cyflawn oed, y rhai y mae eu galluoedd wedi eu cynnefino drwy hirymarfer i ddosbarthu drwg a da.)
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.