1-18Garedigion, yr ail lythyr hwn yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifenu atoch, yn y rhai yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl didwyll drwy adgof; fel y byddo cofus genych y geiriau à lefarwyd o’r blaen gàn y prophwydi santaidd, a’n gorchymyn ninnau, Apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr. – Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau eu hunain, ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys èr pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parâu fel yr oeddynt o ddechreuad y greaduriaeth. Eithr y maent yn wirfoddol ddiarwybod o hyn, mai drwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaiar yn cydsefyll o ddwfr, a thrwy ddwfr; drwy yr hwn y byd à oedd y pryd hwnw, gwedi ei orchuddio â dwfr, á ddyfethwyd. Eithr y nefoedd a’r ddaiar y sydd yr awrhon, ydynt, drwy yr un gair, wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a dystryw yr anwir ddynion. Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, garedigion, bod un dydd gyda’r Arglwydd megys mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megys un dydd. Nid ydyw yr Arglwydd yn oedi ei addewid fel y mae rhai yn cyfrif oediad; ond hirymarôus yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i ddiwygiad. Eithr, megys lleidr, y daw dydd yr Arglwydd; yn yr hwn y nefoedd á ant heibio gyda thwrf, a’r elfenau gàn wir wres á doddant; a’r ddaiar, a’r gwaith y sydd arni á losgir. A chan fod yn raid i’r pethau hyn i gyd ymollwng; – pa fath ddynion à ddylech chwi fod, mewn santaidd ymarweddiad a duwioldeb, yn dysgwyl, ac yn awyddus am ddyfodiad dydd Duw; yn yr hwn y nefoedd wedi eu rhoi àr dan, á ymollyngant, a’r elfenau gàn losgi, á doddant? Eithr nefoedd newydd, a daiar newydd, yr ydym ni, yn ol ei addewid ef, yn eu dysgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. Oherwydd paham, garedigion, gàn eich bod yn dysgwyl y pethau hyn, gwnewch eich goreu àr eich cael ganddo ef yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd, mewn tangnefedd. A chyfrifwch hiramynedd ein Harglwydd, yn iechydwriaeth; megys hefyd yr ysgrifenodd ein hanwyl frawd. Paul atoch chwi, yn ol y doethineb à rodded iddo ef Megys, yn wir, yn ei holl lythyrau, gàn lefaru ynynt am y pethau hyn; yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr annysgedig a’r anwastad yn eu gwyrdroi, megys hefyd yr ysgrythyrau ereill, iddeu dinystr eu hunain. Am hyny, garedigion, a chwi yn rhagwybod y pethau hyn, ymogelwch; rhag, wedi eich arwain ymaith gàn dwyll yr annuwiol, cwympo o honoch ymaith oddwrth eich sefydlogrwydd. Eithr cynnyddwch mewn rhad, ac yn ngwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant, yr awrhon ac yn dragwyddol. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.