1-22Eithr bu geubrophwydi hefyd yn mhlith y bobl, megys y bydd geuathrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel á ddygant i fewn arbleidiau dinystriol, gàn wadu hyd y nod yr Arglwydd yr hwn á’u prynodd hwynt, gàn dynu arnynt eu hunain ddinystr buan. A llawer á ddilynant eu harferion llygredig, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. A thrwy gybydd‐dod, y gwnant fasnach o honoch, drwy chwedlau gau; cosbedigaeth y rhai à fygythid er ys talm nid yw yn oedi, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian. Canys nid arbedodd Duw, yn wir, mo’r angylion à bechasant, eithr wedi iddo, â chadwynau tywyllwch, eu cau i fyny yn Nhartarus, efe á’u rhoddes yn nghadw i farn; ac nid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noah, yr wythfed, cyhoeddwr cyfiawnder, á gadwodd efe, pan ddyg efe y dylif àr fyd y rhai anwir; a gwedi troi dinasoedd Sodoma a Gomorrah yn lludw, á’u cosbodd hwynt â dymchweliad, gàn eu gwneuthur yn siampl i’r rhai à fyddent annuwiol; ac á waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd yn cael ei ofidio yn ddirfawr drwy anniwair ymarweddiad y rhai drygionus: (canys; – y cyfiawn hwnw, yn trigo yn eu mysg hwynt, wrth weled a chlywed eu hannghyfreithlawn weithredoedd hwynt, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd;) yr Arglwydd á fedr wared y rhai duwiol o brofedigaeth, a chadw y rhai annghyfiawn i ddydd barn iddeu poeni; ond yn enwedig y rhai sydd yn rhodio àr ol y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn dïystyru llywodraeth; gàn fod yn rhyfygus, yn gyndyn, nid ydynt yn arswydo cablu urddas; lle nid yw yr angylion, y rhai sy fwy mewn gallu a nerth, yn dwyn cablaidd gyhuddiad yn eu herbyn hwynt gèr bron yr Arglwydd. Eithr y rhai hyn, megys anifeiliaid anianol direswm, y rhai á wnaed iddeu dal a’u dyfetha, gàn gablu y pethau ni wyddant oddwrthynt, á lwyrddyfethir gàn eu llygredigaeth eu hunain; gàn dderbyn cyflog annghyfiawnder. Y rhai á gyfrifant foethineb yn y dydd, yn hyfrydwch: brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain pan yn gwledda gyda chwi; â llygaid ganddynt yn llawn o’r odinebwraig, heb fedru peidio â phechod, yn llithio eneidiau anwadal, â chanddynt galon wedi ymgynnefino â chybydd-dra; plant y felldith: wedi gadael y ffordd uniawn, hwy á aethant àr gyfeiliorn, gàn ganlyn ffordd Balaam, mab Bosor, yr hwn á garodd obr anwiredd; ac á gafodd ei argyhoeddi o’i gamwedd; anifail mud, yn llefaru â llef ddynol, á geryddodd ynfydrwydd y prophwyd. Y rhai hyn ydynt ffynnonau diddwfr, cymylau à ỳrir gàn dymhestl; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yn nghadw yn dragywydd: canys gàn ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, drwy chwantau y cnawd, sef trythyllwch, yn llithio y rhai à ddiangasant yn gwbl oddwrth y rhai sydd yn byw mewn cyfeiliorni. Y maent yn addaw rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn gaethion i lygredigaeth: canys gàn bwybynag y gorchfygwyd neb, i hwnw y mae efe yn gaeth. Ac os wedi dianc oddwrth halogedigaeth y byd, drwy adnabyddiaeth o’r Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, a gwedi ei dyrysu drachefn, y gorchfygir hwy ganddynt; y mae diwedd y rhai hyny yn waeth na’u dechreuad. Am hyny, gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, na, gwedi ei hadnabod, troi oddwrth y gorchymyn santaidd à draddodwyd iddynt. Eithr dygwyddodd iddynt yn ol y wir ddiareb: “Y ci á ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a’r hwch wedi ei golchi, iddei hymdreiglfa yn y dom.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.