Ioan Marc 9 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1yr wyf yn dywedyd wrthych, bod yma rai yn sefyll yma, na phrofant angeu, hyd oni welont Deyrnasiad Duw gwedi dyfod mewn nerth.

2-8Ar ol chwe diwrnod, y cymerodd Iesu Bedr, ac Iago, ac Ioan, o’r neilldu i ben mynydd uchel, ac á weddnewidiwyd yn eu gwydd hwynt. A’i ddillad ef á aethant yn ddysglaer, yn gànaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pànwr àr y ddaiar eu cànu. Ymddangosodd iddynt hefyd Elias gyda Moses, y rhai oeddynt yn ymddyddan ag Iesu. Yna Pedr á ddywedodd wrth Iesu, Rabbi, da yw i ni aros yma; gwnawn dri bwth, un i ti, ac un i Foses, ac un i Elias; oblegid ni wyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd, yr oeddynt wedi dychrynu gymaint. A daeth cwmwl yr hwn á’u gorchuddiodd hwynt; a daeth llais o’r cwmwl, yr hwn á ddywedai, Hwn yw fy Mab, yr anwylyd; gwrandewch ef. Ac yn ddisymwth wedi edrych oddamgylch, ni welsant neb ond Iesu a hwy eu hunain.

9-13Fel yr oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd efe á orchymynodd iddynt beidio adrodd wrth neb yr hyn à welsent, hyd oni chyfodai Mab y Dyn oddwrth y meirw. A hwy á ddaliasant àr y dywediad hwnw, ac á ymofynasant â’u gilydd, beth á allasai y cyfodi oddwrth y meirw arwyddocâu. Yna hwy á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Paham y dywed yr Ysgrifenyddion bod yn raid i Elias ddyfod yn gyntaf? Yntau á atebodd, Er cwblâu pob peth, y mae yn raid i Elias ddyfod yn gyntaf; a (megys yr ysgrifenwyd am Fab y Dyn) rhaid iddo yr un ffunud ddyoddef llawer o bethau, a chael ei ddirmygu. Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod o Elias hefyd, megys y rhagddywedwyd, a hwy á wnaethant iddo fel y gwelsant yn dda.

14-27Gwedi iddo ddychwelyd at y dysgyblion ereill, efe á welai dyrfa fawr o’u hamgylch, a rhyw ysgrifenyddion yn dadleu â hwynt. Cygynted ag y gwelodd y bobl ef, tarawyd hwynt oll ag arswyd, a hwy â redasant iddei gyfarch ef. Ac efe á ofynodd i’r ysgrifenyddion, Am ba beth yr ydych yn dadleu â hwynt? Un o’r bobl gàn ateb, á ddywedodd, Rabbi; mi á ddygais fy mab atat, yr hwn sydd ag ysbryd mud ynddo; a llebynag y mae yn gafaelu ynddo, y mae yn ei daro yn erbyn y llawr, lle yr erys efe yn ewynu ac yn ysgyrnygu ei ddannedd, nes y byddo gwedi dihoeni. A mi á ddywedais wrth dy ddysgyblion am fwrw y cythraul allan, ond ni allent hwy. Yna y dywedodd Iesu, O genedlaeth annghrediniol! pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi. Yn ganlynol hwy á’i dygasant ef: a chygynted ag y gwelodd efe ef, yr ysbryd á’i taflodd ef mewn dirgryniadau, nes oedd yn malu ewyn ac yn ymdreiglo àr y llawr. Iesu á ofynodd i’r tad, Pa faint o amser sydd èr pan ddygwyddodd hyn gyntaf iddo? Yntau á atebodd, Er yn blentyn; a mynych y taflodd efe ef i’r tân ac i’r dwfr, èr ei ddyfetha ef; ond os gelli wneuthur rhyw beth, tosturia wrthym, a chymhorth ni. Iesu á atebodd, Os medri di gredu, pob peth á all fod i’r neb á gredo. Yn y fàn Tad y bachgen gàn lefain, á ddywedodd dàn wylo, Yr wyf fi yn credu; Feistr, cyflawna di ddiffygion fy ffydd. Pan welodd Iesu bod y bobl yn dylifo ato, efe á geryddodd yr ysbryd aflan, gàn ddywedyd wrtho, Ysbryd mud a byddar, dyred allan o hono, yr wyf yn gorchymyn i ti, a na ddos iddo ef mwyach. Yna gwedi iddo grochlefain, a’i ddirgrynu ef yn dost, efe á ddaeth allan, a’r bachgen á ymddangosai fel un marw, fel y dywedodd llawer, Y mae efe gwedi marw. Ond Iesu gan ei gymeryd ef erbyn ei law, á’i cyfododd ef, ac efe á safodd i fyny.

28-29Gwedi i Iesu ddyfod i’r tŷ, ei ddysgyblion á ofynasant iddo o’r neilldu, Paham na allasem ni fwrw y cythraul allan? Yntau á atebodd, Ni ellir bwrw allan y rhyw hwn, ond drwy weddi ac ympryd.

30-32Gwedi ymadael oddyno, hwy á aethant drwy Alilëa; a ni fỳnai i neb wybod, canys yr oedd efe yn dysgu ei ddysgyblion. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Mab y Dyn yn fuan á draddodir i ddwylaw dynion, y rhai á’i lladdant ef; a gwedi ei ladd, efe á gyfyd drachefn y trydydd dydd. Ond nid oeddynt yn dëall pa beth á feddyliai efe, ac yr oedd arnynt ofn gofyn iddo.

33-37Gwedi dyfod o hono i Gapernäum, pan oedd efe yn y tŷ, efe á ofynodd iddynt, Beth oeddych yn ymddadleu yn mhlith eich gilydd àr y ffordd? Ond hwy á dawsant a sôn; oblegid buasent yn ymddadleu â’u gilydd àr y ffordd, pwy fyddai fwyaf. Yna gwedi eistedd o hono, efe á alwodd y deuarddeg, ac á ddywedodd wrthynt, Os mỳn neb fod yn gyntaf, efe á fydd olaf o bawb, a gweinidog i bawb. Ac efe á gymerodd blentyn, ac á’i gosododd yn eu canol hwynt; a gwedi iddo ei gymeryd ef yn ei freichiau, efe á ddywedodd wrthynt, Pwybynag á dderbynio un cyfryw blentyn èr fy mwyn i, á’m derbyn i; a phwybynag á’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn á’m danfonodd i.

38-41Yna Ioan á ddywedodd wrtho, Rabbi, ni á welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dylyn ni; a ni á waharddasom iddo, am nad yw yn ein dylyn ni. Iesu á atebodd, Na waherddwch iddo; oblegid nid oes neb à wna wyrth yn fy enw i, à all yn ebrwydd ddweyd yn ddrwg am danaf. Canys pwybynag nid yw yn eich herbyn, o’ch tu chwi y mae. Oblegid pwybynag á roddo i chwi iddei hyfed gwpanaid o ddwfr èr fy mwyn i, am eich bod yn perthyn i Grist; yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, ni chyll efe ei obr.

42-50Ond pwybynag á faglo un o’r rhai bychain à gredant ynof fi, gwell fyddai iddo pe rhwymid maen melin wrth ei wddf, a’i daflu i’r môr. Hefyd, os dy law á’th fagla, tor hi ymaith; gwell i ti fyned i fewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gènyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy, lle nad yw eu pryf hwynt yn marw, na’u tân yn diffodd. Ac os dy droed á’th fagla, tòr ef ymaith; gwell yw i ti fyned i fewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed genyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy, lle nad yw eu pryf hwynt yn marw na’u tân yn diffodd. Ac os dy lygad á’th fagla, tỳn ef allan; gwell yw i ti fyned i fewn i deyrnas Duw yn unllygeidiog, nag â dau lygad genyt, dy daflu i dân uffern, lle nad yw eu pryf hwynt yn marw, na’u tân yn diffodd. Canys pob un á helltir â thân, fel yr helltir pob aberth â halen. Da yw halen; ond os aiff yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltwch ef? Bid gènych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â’ch gilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help