Ioan Marc 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1Yna hwy á groesasant y môr, ac á ddaethant i wlad y Gadarëaid.

2-20Cygynted ag y glàniodd efe, cyfarfu ag ef ddyn yn dyfod o’r gwyddfeddi, âg ysbryd aflan ynddo, yr hwn oedd â’i drigfa yn y tomodion; a ni allai neb, hyd yn nod â chadwynau, ei rwymo ef. Oblegid mynych y rhwymesid ef â llyffetheiriau a chadwynau, ac y darniasai y cadwynau, a thòrasai y llyffetheiriau, fel na allai neb ei ddofi ef. Ac yr oedd efe yn barâus, ddydd a nos, yn y mynyddoedd, ac yn y tomodion, yn ubain, ac yn tòri ei hunan â chelltèni. Ond pan welodd efe Iesu o hirbell, efe á redodd, a chàn ymgrymu o’i flaen ef, á waeddodd allan, Beth sydd à wnelych â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dyngedu drwy Dduw na phoenych fi. (Canys dywedasai Iesu wrtho, Dyred allan o’r dyn, tydi ysbryd aflan.) Iesu á ofynodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau á atebodd, Fy enw yw Lleng, oblegid llawer ydym. Ac efe á ddeisyfodd arno yn daer beidio a’u gỳru hwynt allan o’r wlad. Ac yr oedd yno genfäint fawr o foch yn pori àr y mynydd. A’r ellyllon á ddeisyfasant arno, gàn ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel yr elom i fewn iddynt. Iesu yn ebrwydd á ganiatâodd iddynt. Yna yr ysbrydion aflan wedi myned allan, á aethant i’r moch; a’r genfaint, yn nghylch dwy fil o rifedi, á ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac á fygwyd. A’r mychiaid á ffoisant, ac á fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y pentrefi. A’r bobl á ymdỳrasant allan i weled yr hyn à ddygwyddasai. Pan ddaethant at Iesu, a gweled yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, a gwedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, hwy á ofnasant. A gwedi i’r sawl à welsent y cwbl, fynegi iddynt yr hyn á ddygwyddasai i’r cythreulig, ac i’r moch, hwy á ddeisyfasant arno ymadael o’u tiriogaethau. A fel yr oedd efe yn llongi, y dyn y buasai y cythraul ynddo, á ofynodd gènad i fyned gydag ef. Eithr ni adawodd Iesu iddo, ond á ddywedodd, Dos adref at dy berthynasau, a dywed wrthynt pa bethau mawrion á wnaeth yr Arglwydd, mewn tosturi, erot. Yn ganlynol efe á ymadawodd, gàn gyhoeddi yn Necapolis, pa bethau mawrion á wnaethai Iesu iddo. A phawb á ryfeddasant,

21-24Gwedi i Iesu fyned drosodd yn y llong i’r làn arall, ymgasglodd tyrfa fawr o’i amgylch tra yr ydoedd efe àr y làn. Yna daeth un o lywyddion y gynnullfa, â’i enw Iairus, yr hwn pan welodd ef, á syrthiodd wrth ei draed ef, ac á ddeisyfodd arno yn daer, gàn ddywedyd, Y mae fy merch fechan mewn perygl dirfawr; dyred, atolwg, a gosod dy ddwylaw arni èr ei hiachâu, a hi á fydd iach. Ac Iesu á aeth gydag ef, yn cael ei ddylyn gàn dyrfa fawr, y rhai á’i gwasgent ef.

25-34A gwraig, yr hon á fuasai ddeg a dwy flynedd yn cael ei blino gàn ddyferlif gwaed, yr hon á ddyoddefasai lawer oddwrth amrai feddygon, ac á dreuliasai gymaint ag oedd àr ei helw heb gael dim lles, ond yn hytrach myned waethwaeth – wedi clywed am Iesu, á ddaeth yn y dorf o’r tu ol, ac á gyfhyrddodd â’i fantell ef; canys hi á ddywedasai, Os cyfhyrddaf ond â’i ddillad ef, iach fyddaf. Yn ebrwydd ffynonell ei hafiechyd á sychodd, a hi á deimlai yn ei chorff ddarfod ei gwaredu oddwrth y ffrewyll hòno. Iesu yn y fàn, yn ymwybodol o’r rhinwedd à aethai allan o hono, gwedi troi at y dorf, á ddywedodd, Pwy á gyfhyrddodd â’m dillad? Ei ddysgyblion á atebasant, Ti á weli fel y mae y dyrfa yn dy wasgu; ac á ddywedi di, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Eithr efe á edrychodd o’i amgylch i weled yr hon à wnaethai hyn. Yna y wraig, yn gwybod y cyfnewidiad à weithiesid arni, á ddaeth dàn grynu o ofn, á syrthiodd gèr ei fron ef, ac á gyfaddefodd yr holl wirionedd. Yntau á ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd á’th iachâodd; dos mewn heddwch, wedi dy ryddâu oddwrth y ffrewyll hon.

35-43Cyn iddo orphen llefaru, daeth cènadau o dŷ llywydd y gynnullfa, y rhai á ddywedasant, Y mae dy ferch wedi marw, paham yr aflonyddit yr athraw mwyach? Iesu yn clywed mynegi y gènadwri hon, á ddywedodd yn y fàn wrth y llywydd, Nac ofna; crêd yn unig. A ni adawai efe i neb ei ddylyn ef ond Pedr ac Iägo, ac Iöan brawd Iägo. Gwedi cyrhaedd tŷ y llywydd, a gweled y cynhwrf, a’r bobl yn wylo ac yn ochain yn annghymedrol, efe á ddywedodd wrthynt, fel yr oedd yn myned i fewn, Paham yr ydych yn wylo, ac yn gwneuthur ffwdan? ni bu farw y plentyn, ond cysgu y mae. A hwy á’i gwatwarasant ef. Ond wedi eu bwrw hwynt oll allan, efe á gymerodd gydag ef dad a mam y plentyn, a’r rhai à ddaethent gydag ef; ac efe á aeth i fewn i’r ystafell lle yr oedd hi; a gwedi ymaflyd yn ei llaw, á ddywedodd wrthi, Talitha cwmi, (yr hyn á arwydda, Ferch ieuanc, cyfod,) yr wyf yn gorchymyn i ti. Yn y fàn yr eneth á gyfododd ac á rodiodd, canys yr oedd hi yn ddeg a dwy flwydd oed; a hwy á sỳnasant yn ddirfawr. Eithr efe á orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn, ac á berodd roddi iddi rywbeth iddei fwyta.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help