1 Corinthiaid 12 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-31Eithr, am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fỳnwn i chwi fod heb wybod. Chwi á wyddoch mai Cenedloedd oeddych, yn cael eich arwain ymaith at eilunod mudion, yn mha fodd bynag ych tywysid. Am hyny, yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb, yn llefaru drwy Ysbryd Duw, yn galw Iesu yn esgymun; a nad all neb ddatgan Iesu yn Arglwydd, oddieithr drwy yr Ysbryd Glan. Y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd. Ac y mae amryw weinidogaethau, ond yr un Arglwydd. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un Duw yw yr hwn sydd yn gweithredu pob peth yn mhawb. Ac i bob un y rhoddir yr eglurâad hwn o eiddo yr Ysbryd èr llesâad i bawb. Canys i un, yn wir, y rhoddir, drwy yr Ysbryd, ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Ysbryd. Ac i arall ffydd, drwy yr un Ysbryd; ac i arall ddoniau i iachâu, drwy yr un Ysbryd: ac i arall weithrediadau nerthoedd: ac i arall, broffwydoliaeth: ac i arall, wahaniaethiad ysbrydoedd: ac i arall, amryw fathau o dafodau dyeithr: ac i arall, gyfieithiad tafodau dyeithr. A’r holl bethau hyn y mae yr un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu; gàn gyfranu i bob un, yn neillduol, megys y mae yn ewyllysio. Canys, fel y mae y corff yn un, èr bod iddo aelodau lawer; a holl aelodau yr un corff hwnw, a hwy yn llawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. Oherwydd, drwy un Ysbryd, y trochwyd ni oll i un corff; pa un bynag ai Iuddewon ai Groegwyr; ai caethion ai rhyddion: ac oll á ddiodwyd o un Ysbryd. Yn gymaint, gàn hyny, nad yw y corff un aelod, eithr llawer; os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai, am hyny, nid yw efe o’r corff? Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai, am hyny, nid yw hi o’r corff? Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai y clywad? Pe y cwbl fyddai glywad, pa le y byddai yr arogliad? Eithr, yn awr, Duw á osododd yr aelodau, bob un o honynt, yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. Hefyd, pe baent oll un aelod, pa le y byddai y corff? Ond, yn awr, yn wir, y mae aelodau lawer, eithr un corff. Am hyny, nis gall y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt: na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. Na, yr aelodau hyny o’r corff y rhai á dybir eu bod yn wànach, ydynt angenrheidiol. A’r rhai à dybiwn yn aelodau llai anrhydeddus o’r corff, yn nghylch y rhai hyny y gosodwn ychwaneg o anrhydedd; a felly, y mae ein haelodau anhardd, yn cael ychwaneg o harddwch. Ond, ein haelodau hardd nid rhaid iddynt wrtho. Eithr Duw á gyd‐dymherodd y corff, gàn fod wedi rhoddi ychwaneg o anrhydedd i’r aelod oedd â’i eisieu arno. Fel na byddai ymraniad yn y corff; eithr, bod i’r aelodau feddu yr un gofal dros eu gilydd. Felly, pynag ai dyoddef y mae un aelod, y mae yr holl aelodau yn cydymdeimlo; ai anrhydeddu yr ydys un aelod, y mae yr holl aelodau yn cydlawenâu. A chychwi ydych gorff Crist, ac aelodau yn neillduol. A’r rhai hyn, yn wir, á osododd Duw yn y gynnulleidfa; yn gyntaf, Apostolion; yn ail, proffwydi; yn drydydd, athrawon; yn nesaf, nerthoedd; yna, doniau i iachâu; cynnorthwywyr, hyfforddwyr, rhywogaethau tafodau dyeithr. Ai Appostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? a oes nerthoedd gàn bawb? a oes gàn bawb ddoniau i iachâu? a yw pawb yn llefaru â thafodau dyeithr? a yw pawb yn cyfieithu? Eithr taerddeisyfwch y doniau goreu: ac eto yr wyf fi yn dangos i chwi ffordd fwy rhagorol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help