2 Corinthiaid 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-6Am hyny, gàn fod genym y weinidogaeth hon, megys y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu; eithr ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwysdra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus; eithr drwy eglurâad y gwirionedd, yn canmol ein hunain wrth gydwybod pob dyn yn ngolwg Duw. Os yw ein hefengyl ni, gàn hyny, gwedi ei llènu, yn mhlith y rhai colledig y mae gwedi ei llènu; yn mhlith y rhai y dallodd duw y byd hwn feddyliau y rhai digred, fel na thywynai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw. A nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi èr mwyn Iesu. Canys Duw, yr hwn á orchymynodd i oleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn á lewyrchodd i’n calonau ni, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.

7-18Eithr y mae genym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidogrwydd y gallu o Dduw, a nid o honom ni. Ein gwasgu yr ydys o bob tu, ond nid ein llethu; mewn cyfyng‐gynghor yr ydym, ond nid yn ddiobaith; yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein dyfetha. Bob amser yn dwyn oddi amgylch yn y corff farwolaethiad Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni. Canys yr ydys yn wastad yn ein gosod ni, y rhai ydym yn fyw, yn agored i angeu èr mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Hyd onid yw angeu yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. Eto gàn bod genym yr un ysbryd ffydd, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Credais, am hyny y llefarais;” yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hyny yn llefaru; gàn wybod y bydd i’r hwn à gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd drwy Iesu, a’n gosod gèr bron gyda chwi. Canys yr holl bethau hyn sydd èr eich mwyn chwi; fel y byddo i y rhad, à sy gwedi amlâu i laweroedd, drwy ddiolchgarwch y nifer mwyaf, ymhelaethu i ogoniant Duw. Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr èr llygru ein dyn oddi allan, èr hyny y dyn oddi fewn á adnewyddir o ddydd i ddydd. Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn gweithio tragwyddol bwys gogoniant i ni, anrhaethadwy odidog; tra yr ydym yn edrych, nid àr y pethau à welir, ond àr y pethau ni welir; canys y pethau à welir sy dros amser, ond y pethau ni welir sy dragwyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help