2 Corinthiaid 6 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-10A ninnau, fel cydweithwyr hefyd, ydym yn attolwg i chwi, na dderbynioch rad Duw yn ofer; (canys y mae efe yn dywedyd, “Mewn amser cymeradwy yth wrandewais, ac yn nydd iechydwriaeth yth gynnorthwyais.” Wele, yn awr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd iechydwriaeth:) heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier àr y weinidogaeth. Eithr gàn ein dangos ein hunain drwy bob peth fel gweinidogion Duw, drwy amynedd mawr, drwy gystuddiau, drwy angenion, drwy gyfyngderau, drwy wialenodiau, drwy garchariadau, drwy derfysgau, drwy boenau, drwy wyliadwriaethau, drwy ymprydiau; drwy burdeb, drwy wybodaeth, drwy hirymaros, drwy ddaioni, drwy ysbryd santaidd, drwy gariad diragrith; drwy air y gwirionedd, drwy nerth Duw, drwy arfau cyfiawnder y llaw ddëau a’r aswy; drwy barch ac anmharch, drwy annghlod a chlod; megys twyllwyr, èr hyny yn eirwir; megys anadnabyddus, èr hyny yn adnabyddus; megys yn meirw, èr hyny wele byw ydym; megys wedi ein ceryddu, èr hyny heb ein lladd; megys yn tristâu, ond yn wastad yn llawen; megys yn dylodion, èr hyny yn cyfoethogi llawer; megys heb ddim genym, ond eto yn meddu pob peth.

11-18Ein genau ni á agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid! ein calon ni á eangwyd. Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. Ac èr mwyn gwneuthur yr un atdaliad, (yr wyf yn dywedyd megys wrth blant,) eanger chwithau hefyd. Na ieuer chwi yn annghymharus gyda’r rhai digred; canys pa gymdeithas sy rhwng cyfiawnder ag annghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni â thywyllwch? a pha gyttundeb sy rhwng Crist â Belial? neu pa ran sydd i gredadyn gydag annghredadyn? a pha gydfod sy rhwng teml Duw ag eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, “Mi á breswyliaf yn eu plith, ac á rodiaf yn eu mysg; a mi á fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau á fyddant yn bobl i mi. Oherwydd paham, deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, a na chyfhyrddwch â neb aflan; a mi á’ch derbyniaf chwi; a mi á fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau á fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help