Hebreaid 11 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-3Ffydd, yn wir, sydd hyder o ràn pethau yr ydys yn eu gobeithio, ac argyhoeddiad o ràn pethau nid ydys yn eu gweled. Drwyddi hi y cafodd y rhai gynt air da. Wrth ffydd, yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd drwy air Duw; yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau à welir.

4-40Drwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain, drwy yr hwn y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn; gàn i Dduw ddwyn tystiolaeth iddei offrymau ef; a thrwyddi hi y mae efe, gwedi marw, yn llefaru eto. Drwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth, ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef; canys cyn ei symud, efe á gafodd dystiolaeth ddarfod iddo ryngu bodd Duw. Eithr heb ffydd annichon yw rhyngu ei fodd ef. Oblegid rhaid i’r sawl sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. Drwy ffydd, Noah gwedi ei rybyddio gàn Dduw am bethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn, á ddarparodd arch i achub ei deulu; drwy yr hon y collfarnodd efe y byd, ac a wnaethwyd yn etifedd y cyfiawnder y sy drwy ffydd. Drwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd i fyned i’r màn yr oedd efe iddei dderbyn yn etifeddiaeth, á ufyddâodd, ac á aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Drwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megys mewn tir dyeithr, gàn drigo mewn pebyll gydag Isaac a Iacob, cydetifeddion o’r un addewid: canys dysgwyl yr oedd efe am y ddinas y mae iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Drwy ffydd Sarah hithau á dderbyniodd nerth i ymddwyn had, a gwedi amser oedran á esgorodd; oblegid ffyddlawn y barnodd hi yr hwn à addawodd. Oherwydd paham y cenedlwyd o un, a hwnw yn gystal a marw, cynnifer â ser y nef mewn lliaws, a megys y tywod àr fin y mòr yn aneirif. Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion. Canys â hwy o bell yn gweled y pethau à addawid, ac yn eu cyfarch hwynt, cyfaddef yr oeddynt mai dyeithriaid a phererinion oeddynt yn y tir. A’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, ydynt yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad. Oblegid, yn wir, pe buasent yn cofio am y wlad hòno, o’r hon y daethant allan, hwy á allasent gael cyfle i ddychwelyd iddi. Eithr, yn ddiau, gwlad well yr oeddynt hwy yn ei chwennych; hyny ydyw, un nefol. O achos paham, nid oes àr Dduw gywilydd o honynt, – ei alw yn Dduw iddynt; oblegid efe á barotôdd ddinas iddynt. Drwy ffydd, Abraham, pan ei profwyd, á offrymodd Isaac; yr hwn á dderbyniasai yr addewidion á offrymodd ei uniganedig, am yr hwn y dywedasid, “Yn Isaac y gelwir i ti had;” gàn gyfrif bod Duw yn alluog iddei gyfodi ef, hyd y nod oddwrth y meirw; o ba le, yn wir, y cawsai efe ef mewn cymhariaeth. Drwy ffydd y bendithiodd Isaac Iacob ac Esau, am bethau à fyddent. Drwy ffydd, Iacob, wrth farw, á fendithiodd bob un o feibion Ioseph, ac á addolodd, a’i bwys àr ben ei ffon. Drwy ffydd, Ioseph, wrth farw, á goffâodd am ymadawiad plant Israel, ac á roddodd orchymyn am ei esgyrn. Drwy ffydd, Moses, pan anwyd, á guddiwyd drimis gàn ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws, ac nid ofnasant orchymyn y brenin. Drwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, á wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh, gàn ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser, gàn farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau yr Aifft; canys edrych yr oedd efe àr daledigaeth y gobrwy. Drwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin. Canys efe á ymwrolodd, fel un yn gweled yr Anweledig. Drwy ffydd y sefydlodd efe y pasc, a thaenelliad y gwaed; rhag i’r hwn ydoedd yn dinystrio y rhai cyntafanedig gyfhwrdd â hwynt. Drwy ffydd yr aethant drwy y Môr Coch, megys àr hyd tir sych, yr hyn pan geisiodd yr Aifftiaid, boddi á wnaethant. Drwy ffydd y syrthiodd caerau Iericho, gwedi eu hamgylchu dros saith niwrnod. Drwy ffydd ni ddyfethwyd Rahab y buten gyda’r annghredinwyr, pan dderbyniodd hi yr ysbiwyr yn heddychol. A pheth ychwaneg á ddywedaf? canys yr amser á ballai i mi i fynegi am Gideon, am Farac, ac am Samson, ac am Iephtha; am Ddafydd hefyd, a Samuwel, a’r prophwydi, – y rhai drwy ffydd á oresgynasant deyrnasoedd, á wnaethant gyfiawnder, á gawsant addewidion, á gauasant safnau llewod, á ddiffoddasant angerdd tân, á ddiangasant rhag min y cleddyf, á nerthwyd o wendid, á wnaethwyd yn gryfion mewn rhyfel, á ỳrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio. Gwragedd á dderbyniasant eu meirw drwy adgyfodiad, ac ereill á ddirdynwyd, heb dderbyn ymwared, fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell. Ac ereill á gawsant brofedigaeth drwy watwor a fflangellau; ïe, drwy rwymau hefyd a charchar. Hwy á labyddiwyd, á dòrwyd â llif, á demtiwyd, á laddwyd yn feirw â’r cleddyf, á gwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr, yn amddifaid, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; y rhai hyn nid oedd y byd yn deilwng o honynt; hwy á grwydrasant mewn diffeithfeydd, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaiar. A’r rhai hyn oll, èr cael gair da oblegid eu ffydd, ni dderbyniasant yr addewid, gàn fod Duw gwedi darparu rhywbeth gwell i ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help