1-24Gwelwch pa fath gariad à roddes y Tad arnom, fel y gelwid ni yn feibion i Dduw! Oblegid hyn nid edwyn y byd ni, am nad adnabu efe ef. Garedigion, yr awrhon plant i Dduw ydym; ond nid amlygwyd eto beth á fyddwn. Ni á wyddom, pa fodd bynag, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo; – y cawn ei weled ef megys ag y mae. Ac y mae pob un y sy ganddo y gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro ei hun, megys y mae Yntau yn bur. Pob un sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur annghyfraith; oblegid annghyfraith yw pechod. Hefyd, chwi á wyddoch ymddangos o hono ef, fel y dilëai ein pechodau ni; – ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu. Pob un sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef. Blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gweithredu cyfiawnder, sy gyfiawn, megys y mae Yntau yn gyfiawn. Yr hwn sydd yn gweithredu pechod, o ddiafol y mae; canys y mae y diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y dinystrai weithredoedd y diafol. Pob un à genedlwyd gàn Dduw, nid yw yn gweithredu pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef; ac nis gall efe bechu, am ei genedlu ef gàn Dduw. Yn hyn y mae yn amlwg blant Duw, a phlant y diafol; pob un nid yw yn gweithredu cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. Oblegid hon yw y genadwri à glywsoch o’r dechreuad – bod i ni garu ein gilydd. Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r un drwg, ac á laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd efe ef? Oblegid bod ei weithredoedd ei hun yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn gyfiawn. Na ryfeddwch, fy mrodyr, bod y byd yn eich casâu chwi. Nyni á wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru y brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, sydd yn aros yn marwolaeth. Pob un sydd yn casâu ei frawd, lleiddiad dyn yw; a chwi á wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Yn hyn yr adnabuom gariad Crist, oblegid dodi o hono ef ei einioes drosom ni; am hyny ninnau á ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. Pwybynag, gàn hyny, sy ganddo dda’r byd hwn, ac à welo ei frawd mewn eisieu, ac á gauo ei dosturi oddwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn àr air, nac àr dafod yn unig: eithr mewn gwethred a gwirionedd. Canys wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd, ac y sicrâwn ein calonau gèr ei fron ef. Ond os ein calon á’n collfarna, mwy yw Duw na’n calon, ac efe á ŵyr bob peth. Garedigion, os ein calon ni’n collfarna, y mae genym hyder àr Dduw. A pha beth bynag á ofynom yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. Canys hwn yw ei orchymyn ef, Credu o honom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megys y rhoes efe orchymyn i ni. A’r hwn sydd yn cadw ei orchymynion Ef, sydd yn trigo ynddo Ef, ac Yntau ynddo yntau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.