Dadguddiad 15 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-4A mi á welais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol; saith angel â chanddynt y saith bla diweddaf; oblegid ynddynt hwy yr oeddid i gyflawni llid Duw. A mi á welais megys môr o wydr wedi ei gymysgu â than; a’r rhai oedd yn cael y maes àr y bwystfil, ac àr ei ddelw ef, ac àr ei nod ef, ac àr rifedi ei enw ef, yn sefyll wrth y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt. A hwy á ganasant gân Moses; a chân yr Oen; gàn ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint. Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt berffaith. Yn ddiau yr holl genedloedd á ddeuant ac á addolant gèr dy fron di, oblegid dy gyfiawn farnedigaethau di á eglurwyd.

5-8Ac àr ol hyn, mi á edrychais; ac yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth wedi ei hagoryd yn y nef; a daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o’r deml, wedi eu gwisgo mewn llian pur a dysglaer, a gwregysu eu dwyfronau a gwregysau aur. Ac un o’r pedwar anifel á roddes i’r saith angel saith o feiliau aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. A llanwyd y deml o fwg oddwrth ogoniant Duw, ac oddwrth ei nerth ef. Ac ni allai neb fyned i fewn i’r deml, nes darfod cyflawni saith bla y saith angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help