Ioan 20 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-10Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair o Fagdala, á aeth yn fore at y beddrawd, a hi eto yn dywyll, ac á ganfu bod y maen wedi ei symud oddar y drws. Yna hi á ddaeth dàn redeg at Simon Pedr, ac at y dysgybl arall yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu, ac á ddywedodd wrthynt, Hwy á ddygasant y Meistr ymaith o’r beddrawd, a ni wyddom ni pa le y dodasant ef. Pedr yn ddiannod á aeth allan, a’r dysgybl arall, i fyned at y beddrawd. A’r ddau á gydredasant, ond y dysgybl arall á redodd yn gynt na Phedr, ac á ddaeth yn gyntaf at y beddrawd; a gwedi iddo grỳmu, efe á welai yr amlieiniau yn gorwedd, ond nid aeth efe i fewn. Yna y daeth Simon Pedr, yr hwn oedd yn ei ganlyn ef, ac á aeth i fewn i’r beddrawd, lle y canfu efe yr amlieiniau yn gorwedd; a’r napcyn à fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid yn eu hymyl, ond mewn lle àr ei ben ei hun. Yna y dysgybl arall, yr hwn á ddaethai gyntaf at y beddrawd, á aeth i fewn hefyd; ac efe á welodd ac á gredodd y mynegiad. Canys, hyd yn hyn, nid oeddynt yn deall oddwrth yr ysgrythyrau, bod yn raid iddo gyfodi o feirw. Yna y dysgyblion á ddychwelasant at eu cymdeithion.

11-18Ond Mair a safodd oddi allan, wrth y beddrawd, yn wylo. Fel yr oedd hi yn wylo, gàn grymu i lawr i edrych i’r beddrawd, hi á welai ddau angel yn eu gwỳn, yn eistedd lle y gorweddasai corff Iesu, un wrth y pen, a’r llall wrth y traed. A hwy á ddywedasant wrthi, Wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Hithau á atebodd, Am iddynt ddwyn fy Meistr ymaith, a nas gwn pa le y dodasant ef. Wedi iddi ddywedyd hyn, hi á droes drach ei chefn, ac á welai Iesu yn sefyll, ond nis gwyddai hi mai Iesu oedd efe. Iesu à ddywedodd wrthi, Wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai y garddwr oedd efe, á atebodd, Syr, os tydi á’i dygaist ef oddyma, dywed i mi pa le y dodaist ef, a mi á’i cymeraf ef ymaith. Iesu á ddywedodd wrthi, Mair. Hithau á droes, ac á ddywedodd wrtho, Rabboni; hyny ydyw, Athraw. Iesu á ddywedodd wrthi, Na chyfhwrdd â mi, oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad; ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, at fy Nuw i a’ch Duw chwithau. Mair o Fagdala á aeth ac á fynegodd i’r dysgyblion, weled o honi hi y Meistr, a dywedyd o hono y pethau hyn iddi.

19-23Hwyr y dydd hwnw, y cyntaf o’r wythnos, Iesu á ddaeth lle yr oedd y dysgyblion wedi ymgasglu yn nghyd, (a’r drysau yn gauad rhag ofn yr Iuddewon,) ac á safodd yn y canol ac á ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á ddangosodd iddynt ei ddwylaw a’i ystlys. Y dysgyblion, gàn hyny, á lawenychasant, pan welsant mai eu Meistr oedd. Iesu á ddywedodd drachefn wrthynt, Tangnefedd i chwi. Megys y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwithau. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á anadlodd arnynt, ac á ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glan. Pwybynag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a phechodau pwybynag á attalioch, á attelir.

24-29Eithr Thomas, hyny yw, Didymus, un o’r deuarddeg, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth Iesu. Y dysgyblion ereill, gàn hyny, á ddywedasant wrtho, Ni á welsom y Meistr. Yntau á atebodd, Oni chaf weled yn ei ddwylaw ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi. Yn mhen wyth niwrnod wedi, a’r dysgyblion drachefn yn tŷ, a Thomas gyda hwynt, Iesu á ddaeth, a’r drysau yn gauad, ac á safodd yn y canol, ac á ddywedodd, Tangnefedd i chwi. Yna gwedi troi at Thomas, Estyn yma dy fys, ebai efe, ac edrych àr fy nwylaw; estyn hefyd dy law a theimla fy ystlys; a na fydd annghrediniol, eithr cred. Thomas á atebodd, ac á ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd a’m Duw. Iesu á adatebodd, Am dy fod ti yn fy ngweled, yr wyt yn credu: gwỳn eu byd y rhai, èr na welsant erioed, èr hyny á gredant.

30-31Llawer o wyrthiau ereill hefyd á wnaeth Iesu yn ngwydd ei ddysgyblion, y rhai ni chofnodwyd yn y llyfr hwn. Ond y rhai hyn á gofnodwyd, fel y credoch chwi mai Iesu yw y Messia, Mab Duw, a chàn gredu y caffoch fywyd drwy ei enw ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help