1-14A mi á welais yn neheulaw yr hwn oedd yn eistedd àr yr orseddfainc, ròl wedi ei ysgrifenu oddi fewn ac oddi allan, wedi ei selio â saith sel. A mi á welais gènad cadarn yn cyhoeddi â llef uchel, Pwy sy deilwng i agoryd y rhòl, ac i ddattod ei seliau ef? Ac nid oedd neb yn y nef, nac àr y ddaiar, na thàn y ddaiar, yn gallu agoryd y rhòl, nac edrych arno. A mi á wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd y rhòl, nac i edrych arno. Ac un o’r henuriaid á ddywedodd wrthyf, Nac wyla; wele y Llew o lwyth Iuwda, Gwreiddyn Dafydd, á orfyddodd i agoryd y rhòl, a’i saith sel ef. A mi á welais yn y canol, rhwng yr orseddfainc a’r pedwar anifel, yn nhanol yr henuriaid, Oen yn sefyll, megys wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, gwedi eu danfon allan i’r holl ddaiar. Ac efe á ddaeth, ac á gymerodd y rhòl o ddeheulaw yr hwn oedd yn eistedd àr yr orseddfainc. A phan gymerodd efe y rhòl, y pedwar anifel, a’r pedwar henuriad àr ugain, á syrthiasant gèr bron yr Oen, â chàn bob un o honynt delynau, a meiliau aur, yn llawn o arogldarth, y rhai ydyw gweddiau y saint. A hwy á ganasant ganiad newydd, gàn ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymeryd y rhòl, ac i agoryd ei seliau ef; oblegid ti á laddwyd, ac á’n prynaist ni i Dduw drwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl; ac á’n gwnaethost, i’n Duw ni, yn freninoedd ac yn offeiriaid; a ni á deyrnaswn àr y ddaiar. A mi á edrychais, ac á glywais lais angylion lawer o gylch yr orseddfainc, a’r henuriaid; a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau a miloedd o filoedd; yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw yr Oen à laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a bendith! A phob creadur y sydd yn y nef, ac àr y ddaiar, a thàn y ddaiar, a’r sawl sydd yn y môr, ïe y cwbl sydd ynynt, á glywais i yn dywedyd, I’r hwn sydd yn eistedd àr yr orseddfainc, ac i’r Oen, boed bendith, ac anrhydedd, a gogoniant, a gallu, yn dragywydd! A’r pedwar anifel á ddywedasant, Amen: a’r henuriaid á syrthiasant i lawr ac á’i haddolasant ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.